Mae’r heddlu yn Sri Lanca wedi arestio gwleidydd Mwslimaidd blaenllaw a’i frawd mewn perthynas â ffrwydradau ar Sul y Pasg 2019, pan gafodd 269 o bobol eu lladd.
Mae Rishad Bathiudeen yn gyn-aelod o gabinet llywodraeth y wlad ac mae’n arweinydd yr wrthblaid.
Cafodd ei arestio yn y brifddinas Colombo ynghyd â’i frawd Reyaj Bathiudeen, a hynny ar amheuaeth o gynorthwyo’r hunanfomwyr oedd yn gyfrifol am y gyflafan.
Dydy’r brodyr ddim wedi cael eu cyhuddo hyd yn hyn.
Mae grwpiau Mwslimaidd sydd â chysylltiadau â Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – yn cael y bai am chwech o ffrwydradau mewn eglwysi a bwytai.
Mae Mwslimiaid a Phabyddion yn lleiafrifoedd yn y wlad.
Daw’r datblygiad diweddaraf yn dilyn digwyddiad ganol yr wythnos ddiwethaf i gofio’r rhai fu farw union ddwy flynedd yn ôl.
Mae’r llywodraeth dan bwysau cynyddol i ddwyn achos yn erbyn y rhai oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.