Mae Plaid Cymru’n addo benthyciadau heb log er mwyn cyflymu’r adferiad ôl-Covid yng Nghymru.
Daw’r addewid ym Maniffesto Busnes y blaid wrth iddyn nhw anelu i greu “economi fwy clyfar”.
Yn ôl yr arweinydd Adam Price, mae gan Gymru “un o’r lefelau isaf o berchnogaeth fusnes leol o blith unrhyw economi ddatblygiedig”.
Byddai’r blaid yn “sicrhau bod pwyslais newydd ar gefnogi cwmnïau brodorol gyda’r potensial i dyfu”, meddai.
Ymhellach, mae’n dweud y byddai benthyciadau heb log, ynghyd â grantiau brys i ailsgilio i lenwi bylchau mewn sectorau eraill, yn helpu “i gyflymu’r adferiad ôl-Covid”.
Hefyd yn y maniffesto mae addewidion i:
- gynnig grantiau ailddechrau ar unwaith o hyd at £20,000 i fusnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden ac unrhyw sector arall sydd wedi dioddef yn ystod y cyfyngiadau
- datblygu Grantiau Ailsgilio Brys i fynd i’r afael â diffyg sgiliau mewn rhai sectorau o’r economi, e.e. lletygarwch
- datblygu polisi Lleol yn Gyntaf yn seiliedig ar berchnogaeth leol o ran busnesau.
- cyflwyno cyigion yn ystod tymor nesa’r Senedd ar gyfer treth ar dir masnachol a diwydiannol – ond gan eithrio tir amaethyddol – er mwyn dileu cyfraddau annomestig.
- cynnig Gratiau Gwarchod Busnes o hyd at 90% o gostau penodedig ar gyfer busnesau fydd yn parhau i gael eu heffeithio gan y pandemig dros y 18 mis nesaf.
- cyflwyno polisi i gynyddu cyfran yr economi sydd ym mherchnogaeth pobol yng Nghymru.
- cyflwyno rhaglen gwerth £6bn o fuddsoddiad i gefnogi datblygiad busnesau a Chytundeb Gwyrdd i Gymru.
- sefydlu Llewyrch Cymru, asiantaeth ddatblygu hyd braich i gyflwyno polisïau effeithiol ar gyfer busnesau.
Ehangu, cefnogi a gwarchod busnesau domestig
“Mae gan Gymru un o’r lefelau isaf o berchnogaeth fusnes leol o unrhyw economi ddatblygiedig,” meddai Adam Price.
“Rhaid i hynny newid.
“Bydd ein cynlluniau ar gyfer economi fwy clyfar yn seiliedig ar ehangu, cefnogi a gwarchod busnesau domestig.
“Bydd llywodraeth Plaid yn sicrhau bod pwyslais newydd yn cael ei roi ar gefnogi cwmnïau brodorol sydd â’r potensial i dyfu.
“Rydym yn cydnabod fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn her enfawr i fusnesau Cymru.
“Dyna pam fyddai llywodraeth Plaid yn cyflwyno cefnogaeth frys Covid-19, yn cynig benthyciadau heb log i fusnesau i gyflymu’r adferiad ôl-bandemig.
“Byddwn i, yn brif weinidog, yn canolbwyntio ar gefnogi cynifer o bobol â phosib i ddychwelyd i’r gwaith, boed trwy Warant Swyddi Ieuenctid neu drwy gefnogi busnesau â chymorth ariannol ychwanegol.
“Byddem yn ymestyn rhyddhad cyfraddau busnes i’r sector lletygarwch a’r busnesau eraill sydd wedi’u heffeithio waethf, tan ddiwedd Mehefin i ddechrau a thu hwnt pe bai angen.
“Yn ogystal, byddem yn datblygu cynllun cymorth brys i dalu hyd at 90% o gostau penodedig ar gyfer busnesau a fydd yn parhau i gael eu heffeithio gan y pandemig dros y 18 mis nesaf.
“Mae’r polisïau eraill yn amrwyio o roi hwb i gaffael i gynyddu lefelau arloesedd ac entrepreneuriaeth.
“Byddai ein rhaglen fuddsoddi o £6bn – Cynllun Gwyrdd Cymru – yn creu hyd at 60,000 o swyddi gan sicrhau bod creu swyddi a thwf o fudd i’r economi a’r amgylchedd fel ei gilydd.
“Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol sydd wedi cael ei gostio’n llawn sy’n profi mai Plaid Cymru yw plaid busnesau Cymru.”