Cafodd pobol rybudd i gau eu drysau a’u ffenestri ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 24) yn dilyn tân ar safle canolfan ailgylchu Nant-y-caws yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw am oddeutu 3.30yp i’r Cyfleuster Adennill Deunyddiau (MRF) sydd dan berchnogaeth Cwm Environmental Ltd, a llwyddon nhw i gadw’r tân dan reolaeth.
Chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad.
Mae’r safle yn cael ei redeg gan Cwm Environmental Ltd, ac mae ynghau am y tro.
Mae pobol yn cael eu cynghori i fynd i safle ailgylchu arall – naill ai yn Nhrostre (Llanelli), Wernddu (Rhydaman) neu Hendy-gwyn ar Daf.
“Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’r gwasanaeth tân a hoffwn ddiolch iddynt am bopeth maent yn ei wneud. Nid ydym yn gwybod achos y tân eto a bydd angen lansio ymchwiliad llawn,” meddai Paul Wakelin, Pennaeth Gweithrediadau’r Cyngor Sir.