Mae Syr Anthony Hopkins yn y ras i ennill Oscar ar gyfer yr Actor Gorau yn y seremoni fawreddog heno (nos Sul, Ebrill 25).

Daw’r seremoni ar ôl blwyddyn ansicr i’r diwydiant ffilm ac i’r celfyddydau’n cyffredinol yn sgil Covid-19, a chafodd y seremoni ei gohirio ym mis Chwefror am y rheswm hwnnw.

Mae’r Cymro wedi’i enwebu am ei ran yn y ffilm The Father, sydd hefyd yn gweld Olivia Colman yn cael ei henwebu yng nghategori’r Actores Orau.

Ond y ffefryn i ennill y wobr honno yw’r diweddar Chadwick Boseman (Ma Rainey’s Black Bottom).

Ymhlith y rhai eraill sydd wedi’u henwebu mae’r hanner Cymraes Carey Mulligan (am y ffilm Promising Young Woman) a Vanessa Kirby (Pieces of A Woman), yn ogystal â Riz Ahmed (Sound Of Metal), Gary Oldman (Mank), Daniel Kaluuya (Judas And The Black Messiah) a The Trial Of The Chicago 7 (Sacha Baren Cohen).

Yn wahanol i’r arfer, fydd dim un cyflwynydd penodol ar y noson, gyda’r gwesteion arbennig yn cynnwys Brad Pitt, Regina King a Harrison Ford.

Nomadland yw’r ffefryn i ennill y wobr fawr ar gyfer y Llun Gorau, ond fe fydd yn cystadlu yn erbyn ffilmiau mawr eraill fel Mank a The Trial Of The Chicago 7, Judas And The Black Messiah, The Father, Minari, Promising Young Woman a Sound of Metal.