Mae buddugoliaeth gynta’r tymor o fewn cyrraedd i Forgannwg ar ddiwrnod ola’r gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton yn Northampton yfory.
Ar ddiwedd y trydydd diwrnod, maen nhw’n 205 am bedair yn eu hail fatiad, 248 ar y blaen i’r tîm cartref.
Mae hynny ar ôl iddyn nhw gipio wicedi olaf Swydd Northampton ar ddechrau’r trydydd diwrnod i’w bowlio nhw allan am 364.
Cyrhaeddodd Wayne Parnell, cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, ei hanner canred cyntaf dros ei sir newydd ar ddechrau’r bore, a hynny oddi ar 81 o belenni.
Adeiladodd e bartneriaeth o 108 gyda Gareth Berg am yr wythfed wiced cyn cael ei fowlio gan James Weighell am 54.
Cafodd Nathan Buck ei ddal yn sgwâr gan James Weighell oddi ar fowlio James Harris am 18, cyn i Ben Sanderson gael ei fowlio gan Michael Hogan, gan adael Berg heb fod allan ar 69.
Roedd y tîm cartref i gyd allan, felly, gan orffen 43 y tu ôl i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg.
Yr ail fatiad
Dechreuodd Morgannwg eu hail fatiad yr un mor gadarn â’r batiad cyntaf, wrth i David Lloyd a Nick Selman adeiladu partneriaeth agoriadol o 54 cyn i Lloyd gael ei ddal gan yr eilydd o wicedwr Ricardo Vasconcelos, a gipiodd ei ddaliad cyntaf o dri, oddi ar fowlio Buck am 38.
Heb fod wedi ychwanegu at y sgôr, cipiodd yr ail eilydd Brandon Glover ddaliad ar ochr y goes ddwy belawd yn ddiweddarach i waredu Andy Balbirnie i roi ail wiced i Buck.
Erbyn te, roedd Morgannwg yn 92 am ddwy ac yn edrych yn ddigon cyfforddus er iddyn nhw golli’r wicedi cynnar.
Cyrhaeddodd Selman ei hanner canred wedi’r egwyl oddi ar 124 o belenni cyn cael ei ddal yn gampus gan y wicedwr i lawr ochr y goes oddi ar fowlio Berg am 69.
Roedd y wicedwr yn ei chanol hi eto’n fuan wedyn, gyda Root, oedd newydd gyrraedd ei hanner canred oddi ar 102 o belenni, yn cael ei ddal wrth ergydio y tu allan i’r ffon goes oddi ar fowlio Sanderson am 56.
Daeth dwy wiced fawr mewn pedair pelawd i’r tîm cartref, felly, a’r sgôr erbyn hynny’n 169 am bedair.
Ond ar ôl hanner canred i Kiran Carlson a chanred i’r capten Chris Cooke yn y batiad cyntaf, roedden nhw’n benderfynol o achub eu tîm unwaith eto, ac fe adeiladon nhw bartneriaeth ddi-guro o 36 i lywio Morgannwg ar ddiwedd y dydd.
Fe fydd ganddyn nhw gyfle ar y bore olaf i adeiladu ar hynny cyn rhoi digon o amser iddyn nhw eu hunain i osod nod a gobeithio bowlio Swydd Northampton allan yn yr amser sy’n weddill i sicrhau buddugoliaeth gynta’r tymor.
Serch hynny, fe fydd y Saeson yn poeni am eu capten a’u wicedwr Adam Rossington, sydd allan o’r gêm ag anaf i’w fys wrth geisio cipio daliad.