Mae tîm pêl-droed Abertawe’n herio Reading heddiw (dydd Sul, Ebrill 25) gan wybod mai lle yn y gemau ail gyfle yw’r diweddglo gorau posib i’w tymor nhw erbyn hyn.

Sicrhaodd Watford ddyrchafiad awtomatig ar ôl curo Millwall o 1-0 ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 24), sy’n golygu bod rhaid i Norwich aros cyn bod modd iddyn nhw ddathlu ennill y Bencampwriaeth.

Mae gan Watford 88 o bwyntiau erbyn hyn a gyda thair gêm yn weddill, 85 yw’r uchafswm y gall yr Elyrch eu cael.

Mae wyth pwynt rhwng yr Elyrch, sy’n chweched, a Reading sy’n seithfed, gyda naw pwynt ar gael, felly byddai buddugoliaeth neu gêm gyfartal yn sicrhau’r lle hwnnw yn y gemau ail gyfle i dîm Steve Cooper.

Heblaw bod Abertawe’n colli, byddan nhw, Bournemouth a Barnsley yn sicr o’u llefydd yn y gemau ail gyfle.

Tîm Abertawe: Woodman; Naughton, Cabango, Guehi, Bidwell; Fulton, Grimes, Routledge, Hourihane; Lowe, Cullen