Mae tîm pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau eu lle yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth, gyda gêm gyfartal 2-2 oddi cartref yn Reading.

Roedd pwynt yn ddigon i’r Elyrch, gyda Reading yn colli allan er iddyn nhw unioni’r sgôr yn niwedd y gêm wrth geisio buddugoliaeth.

Daeth goliau’r Elyrch gan Jamal Lowe ac Andre Ayew yng nghanfed gêm Steve Cooper yn rheolwr.

Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl hanner awr wrth i Yakou Meite benio’r bêl i’r rhwyd.

Daeth y gôl i unioni’r sgôr wrth i Lowe rwydo am y pedwerydd tro ar ddeg y tymor hwn, a hynny ar ôl 66 munud.

Roedd e’n ddibynnol ar gymorth Ayew, a aeth yn ei flaen wedyn i rwydo’r gôl hollbwysig – ei unfed ar bymtheg y tymor hwn – ar ôl 82 munud oddi ar groesiad Jake Bidwell.

Tarodd Lowe y postyn cyn i Reading ddod yn gyfartal 2-2 drwy Tomas Esteves yn ystod yr amser a ganiateir am anafiadau.

Brentford, Barnsley a Bournemouth yw’r tri thîm arall yn y gemau ail gyfle.