Roedd siom i’r Cymro Cymraeg Elfyn Evans yn rali Croatia, wrth iddo fe golli allan ar y fuddugoliaeth wrth droi cornel ola’r ras.

Roedd e ar y blaen i Sebastien Ogier, y Ffrancwr sydd hefyd yn aelod o dîm Toyota Gazoo, ar y pryd.

Ond wrth fynd i mewn i’r gornel dyngedfennol, fe aeth Evans i mewn i’r dibyn, gan golli amser hollbwysig.

Yn ôl Evans, mae’r canlyniad yn “drueni” ond fe wnaeth e ganmol perfformiad Ogier ar yr un pryd.

Mae Ogier ar frig y bencampwriaeth ar ôl i Kalle Rovanperä adael y rali yn y cymal agoriadol.

“Do’n i ddim yn meddwl y byddai’n ddigon,” meddai Ogier.

“Mae @ElfynEvans wedi gwneud gwaith gwych.

“Mae’r emosiynau’n hynod gryf nawr!

“Fe fu’n rollercoaster i ni y penwythnos yma, ro’n i’n falch o fod yn y ras o hyd a nawr i ddal y fuddugoliaeth fel hyn… Am wn i, rydyn ni’n gwneud y gamp hon ar gyfer yr emosiynau hyn.”

Mae Evans yn drydydd yn y Bencampwriaeth ar 51 o bwyntiau, y tu ôl i Ogier ar y brig (61) a Thierry Neuville (53).