Mae’r Dreigiau wedi sicrhau pwynt bonws wrth guro’r Scarlets o 52-32 yng Nghasnewydd yn eu gêm ddarbi gyntaf yng Nghwpan yr Enfys y PRO14.

Sgoriodd y Dreigiau saith cais a’r Scarlets pump mewn gêm sâl ar y cyfan.

Aeth y tîm cartref ar y blaen gyda chais gan Jonah Holmes wrth iddo drechu Jonathan Davies wrth iddo geisio amddiffyn a methu’r dacl.

Tarodd y Scarlets yn ôl gyda chais gan y blaenasgellwr Iestyn Rees yn ei gêm gyntaf, ar ôl iddyn nhw ddwyn y bêl i ryddhau Steff Evans, gyda Sam Costelow yn trosi.

Fe wnaeth Ross Moriarty fylchu i ryddhau Jordan Williams yn y gornel, gyda throsiad llwyddiannus gan Sam Davies.

Ymatebodd Costelow gyda chic gosb wrth i Morgan Jones a Tom Rogers orfod gadael y cae ag anafiadau yn yr hanner cyntaf.

Croesodd Aaron Wainwright am gais wedyn – er i’r Scarlets geisio manteisio ar reol newydd wrth i’r capten herio’r penderfyniad, ond yn aflwyddiannus.

Daeth dau gais arall i’r Scarlets cyn hanner amser, gydag Evans yn croesi wrth gael ei ryddhau gan fylchiad Angus O’Brien a Dane Blacker, a’r olaf o’r rheiny yn croesi ei hun wedyn wrth fylchu ger sgarmes.

Croesodd Ryan Elias hefyd, ond roedd y bàs iddo ymlaen.

Ciciodd Davies gic gosb wedyn, ond parhau i sgorio ceisiau wnaeth y ddau dîm.

Dechreuodd Rio Dyer y symudiad allweddol nesaf cyn ei orffen hefyd, yn dilyn cic dda gan Evan Lloyd, a Davies yn trosi’r cais.

Croesodd Aneurin Owen wedyn am gais arall, gyda Davies yn ychwanegu dau bwynt arall, cyn i Jonah Holmes ddawnsio’i ffordd heibio Evans.

Croesodd Evans ar ôl 67 munud, ac fe ryng-gipiodd Johnny McNicholl i redeg yn glir wrth i’r ceisiau lifo.

Sgoriodd Wainwright ei ail gais cyn i Davies gicio dwy gic gosb i sicrhau’r fuddugoliaeth.