Fe fydd Morgannwg yn rhyfeddu eu bod nhw wedi colli gêm Bencampwriaeth o saith wiced yn erbyn Swydd Northampton – buddugoliaeth oedd o fewn eu gafael ac yn edrych yn bosibilrwydd cryf ar ddechrau’r diwrnod olaf.

Ar ôl cau eu hail fatiad ar 311 am bump a gosod nod o 355 mewn 79 o belawdau i Swydd Northampton, chwalu wnaeth bowlwyr Morgannwg wrth golli’r ornest yn Northampton o saith wiced.

Ar ôl ymadawiadau Graham Wagg a Marchant de Lange ar ddiwedd y tymor diwethaf, ac anaf i Timm van der Gugten, bu’n rhaid i Forgannwg droi at James Harris, sydd ar fenthyg am bythefnos.

Ond gyda dim ond Michael Hogan yn fowliwr ymosodol cyfarwydd yn y tîm, roedd gwendidau Morgannwg yn amlwg yn ail fatiad y tîm cartref, wrth i Swydd Northampton ymlwybro i’r nod a ddylai fod wedi bod yn ddigon cystadleuol.

Roedd Morgannwg yn mynd o un bowliwr i’r llall yn y gobaith o atal y llif ond digon hawdd oedd tasg y Saeson.

Ar ôl rhai wythnosau’n pendroni ynghylch safon y batio ar frig y rhestr, mae’n ymddangos fod y broblem benodol honno wedi’i datrys erbyn hyn, ond fe fydd cwestiynau mawr i’w hateb am safon y bowlio.

Adeiladodd Ricardo Vasconcelos a Rob Keogh bartneriaeth o 239 am y drydedd wiced mewn 45 o belawdau – gan beryglu record 38 mlwydd oed Allan Lamb a Wayne Larkins o 242 yn erbyn y Cymry.

Erbyn hynny, roedd y rhan fwyaf o’r gwaith caib a rhaw wedi’i gwblhau ac roedd Vasconcelos yn gallu mwynhau wrth gyrraedd ei sgôr dosbarth gorau erioed o 185 heb fod allan i arwain ei dîm i’r fuddugoliaeth.

Diwedd ail fatiad Morgannwg

Ar ddechrau’r diwrnod olaf, roedd gan Forgannwg fantais swmpus o 248 gyda chwe wiced yn weddill yn eu hail fatiad.

Adeiladodd Kiran Carlson a’r capten Chris Cooke bartneriaeth o 111 am y bumed wiced, gyda Carlson yn cyrraedd ei hanner canred oddi ar 69 o belenni cyn cael ei ddal yn safle’r trydydd dyn gan Ben Sanderson oddi ar fowlio Nathan Buck am 59.

Roedd Cooke ar 57 heb fod allan pan benderfynodd e gau batiad Morgannwg ar 311 am bump, gan osod nod o 355 mewn 79 o belawdau.

Cwrso’n ddi-drafferth

Dim ond 72.4 o’r pelawdau hynny oedd eu hangen ar Swydd Northampton yn y pen draw.

Cwympodd y ddwy wiced yn weddol gynnar yn y batiad, wrth i Ben Curran gael ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan y troellwr Callum Taylor, a Will Thurston yn cael ei ddal gan Andy Balbirnie yn y slip oddi ar fowlio James Weighell fel bod y Saeson yn 82 am ddwy.

Gyda Vasconcelos yn cyrraedd y garreg filltir o ganred am y seithfed tro yn ei yrfa – ei bumed i Swydd Northampton, fe gafodd e gefnogaeth gan Rob Keogh ac erbyn amser te, roedden nhw’n 198 am ddwy, gyda’r bartneriaeth ddi-guro’n werth 116 erbyn hynny.

Hyd yn oed bryd hynny, roedd gan Forgannwg lygedyn o obaith pe baen nhw wedi gallu torri’r bartneriaeth ac fe wnaethon nhw pan gafodd Keogh ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio David Lloyd am 126 – a’r batiwr wedi taro 19 pedwar oddi ar 140 o belenni.

Er i bartneriaeth Keogh a Vasconcelos ddod i ben yn brin o record Larkins a Lamb, fe dorrodd eu tîm record arall wrth sicrhau’r fuddugoliaeth, sef eu sgôr gorau erioed ym mhedwaredd batiad gêm.

A bydd Morgannwg yn dod adref o Northampton yn crafu eu pennau, yn y gobaith o ddod o hyd i atebion cyn iddyn nhw groesawu Caint i Gaerdydd ddydd Iau (Ebrill 29). Ar hyn o bryd, maen nhw heb fuddugoliaeth yn eu tair gêm gyntaf.

Ymateb Matthew Maynard

“Mae’r hogia’n hynod siomedig yn fan’no,” meddai’r prif hyfforddwr Matthew Maynard.

“Mi chwaraeon ni griced yn wych am ychydig dros dridiau.

“Doeddan ni ddim yn coelio, pe baen ni wedi batio tan amser cinio a’u batio nhw allan o’r gêm, fod digon yn y llain i gipio deg wiced mewn tua 70 o belawdau.

“Mi ddaru ni osod nod herio ond roeddan ni’n gwybod heb y basa fo’n heriol i’n bowlwyr ni hefyd.

“Mi ddaethon ni i fyny yn erbyn dau o hogia wnaeth chwarae heb fai.

“Ddaru nhw ddim rhoi unrhyw gyfleoedd, dim gwaedd agos am goes o flaen y wiced, dim byd.

“Ddaru nhw fatio’n wych, y ddau ohonyn nhw.

“Mi fedran ni fod wedi bowlio’n well a maesu’n well, does dim dwywaith am hynny, ond ro’n i’n hoffi’r ffordd rydan ni’n mynd efo’r criw yma o chwraewyr.

“Rydan ni am eu herio nhw – mi fedran ni fod wedi chwarae am gêm gyfartal ond dwi ddim yn meddwl fod neb yn dysgu dim o hynny.

“I lawr y lôn, mi fydd o’n dda i ni.”

Northampton

Morgannwg mewn sefyllfa gref i gipio buddugoliaeth gynta’r tymor yn Northampton

Mae ganddyn nhw flaenoriaeth o 248 gyda chwe wiced o’u hail fatiad yn weddill ar ddiwedd y trydydd diwrnod
David Lloyd

Morgannwg yn rhoi Swydd Northampton dan bwysau ar yr ail ddiwrnod

Maen nhw ar y blaen o 156, gyda dim ond tair wiced ar ôl o fatiad cynta’r Saeson, er i’r capten Adam Rossington frwydro i sgorio 76
Chris Cooke

Capten Cooke yn llywio Morgannwg yn Northampton

107 heb fod allan i Chris Cooke wrth i Forgannwg sgorio 324 am saith ar ddiwrnod cynta’r gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton

James Harris yng ngharfan Morgannwg yn Swydd Northampton

Mae’r Cymro ar fenthyg am bythefnos gyda nifer o fowlwyr Morgannwg allan