Daeth cadarnhad yr wythnos hon mai Rob Page yn hytrach na Ryan Giggs fydd y dyn i greu argraff arno yn wythnosau olaf y tymor i’r rhai sydd yn gobeithio bod ar yr awyren i’r Ewros.

Llond llaw yn unig o gemau sydd ar ôl i wneud hynny felly sut hwyl a gawsant arni’r penwythnos hwn?

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Nathan Broadhead i Everton yn erbyn Arsenal nos Wener ac felly hefyd Neco Williams i Lerpwl yn erbyn Newcastle ac Ethan Ampadu i Sheffield United yn erbyn Brighton ddydd Sadwrn.

Mae Man U a Leeds i fod yn elyniaeth fawr ond nid oedd arwydd o hynny wrth i’r ddau dîm chwarae gêm ddiflas ddi sgôr yn erbyn ei gilydd ar Elland Road ddydd Sul. Dechreuodd Tyler Roberts i’r Gwynion a Dan James i’r Cochion, gyda’r ddau’n cael eu heilyddio gyda thua chwarter awr yn weddill.

Aston Villa yn erbyn West Brom a oedd y gêm hwyr nos Sul. Dechrau ar y fainc a wnaeth Neil Taylor i Villa a Hal Robson-Kanu i’r Baggies.

Roedd dydd Sul yn ddiwrnod rownd derfynol Cwpan y Gynghrair hefyd gyda Spurs yn herio Man City yn Wembley. Mae Ben Davies yn parhau i fod wedi ei anafu ac nid oedd Joe Rodon yn cael chwarae gan iddo ymddangos i Abertawe yn y gystadleuaeth yn gynharach yn y tymor.

Gareth Bale a oedd yr unig gynrychiolaeth Gymreig felly a dechreuodd yntau ar y fainc cyn dod i’r cae fel eilydd hanner ffordd trwy’r ail hanner. Ychydig o argraff a gafodd serch hynny wrth i City lwyr reoli cyn ei hennill hi gyda gôl hwyr Aymeric Laporte

Gareth Bale

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Cyrhaeddodd Kieffer Moore ugain gôl am y tymor gyda thair arall yr wythnos hon, un yn erbyn Brentford ganol wythnos a dwy yn erbyn Wycombe ddydd Sadwrn.

Dwy gôl yr un a oedd hi yn erbyn Wycombe gyda Moore yn rhoi’r Adar Gleision ar y blaen gyda gôl unigol dda cyn i’r gŵr o Gaerdydd, Joe Jacobson, unioni o’r smotyn i’r ymwelwyr. Rhwydodd Moore ei ail yn yr ail hanner i ennill y gêm i’w dîm a chyrraedd y garreg filltir bersonol nodedig am y tymor.

Roedd hi’n brynhawn i’w gofio i Rubin Colwill hefyd wrth i’r Cymro ifanc ddechrau ei gêm gyntaf ar ôl creu argraff oddi ar y fainc yn ddiweddar. Chwaraeodd Colwill awr cyn cael ei eilyddio am Jonny Williams.

Daeth Will Vaulks oddi ar y fainc i’r tîm cartref yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm hefyd ond eiliadau’n unig a barodd cyn derbyn cerdyn coch am dacl uchel ar Curtis Thompson! Tymor da y chwaraewr canol cae yn dod i ben yn fuan felly gan y bydd wedi ei wahardd ar gyfer y ddwy gêm olaf.

Eilyddion heb eu defnyddio a oedd Harry Wilson a Mark Harris i Gaerdydd ac Alex Samuel i’r gwrthwynebwyr.

Sicrhaodd Abertawe eu lle yn y gemau ail gyfle gyda gêm gyfartal yn Reading amser cinio ddydd Sul. Dim ond Reading a allai fod wedi dal yr Elyrch ond nid yw hynny’n bosib wedi’r canlyniad hwn. Dechreuodd Ben Cabango yn y cefn a Liam Cullen yn y llinell flaen i’r tîm o Gymru a daeth Connor Roberts oddi ar y fainc i chwarae chwarter olaf y gêm.

Mae Bournemouth yn sicr o’u lle yn y safleoedd ail gyfle hefyd oherwydd canlyniad Abertawe, a hynny er gwaethaf colled yn erbyn Brentford ddydd Sadwrn. Daeth David Brooks oddi ar y fainc yn y gêm hon ar ôl dechrau a sgorio yn y fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Millwall ganol wythnos. Ar y fainc yr oedd Chris Mepham ar gyfer y ddwy gêm.

Sgoriodd Rabbi Matondo ei gôl gyntaf i Stoke mewn gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Nottingham Forest. Dechreuodd Adam Davies a Rhys Norrington-Davies i’r Potters hefyd a chafodd Sam Vokes ychydig funudau oddi ar y fainc.

Rabbi Matondo

Ar ôl dechrau’r ddwy gêm ddiwethaf, ar y fainc yr oedd Chris Norton ar gyfer hon. Ac mae tmor James Chester ar ben yn dilyn anaf yn y gêm ganol wythnos yn erbyn Coventry; yn ymuno â Joe Allen a Morgan Fox ar restr anafiadau Michael O’Neill.

Roedd hi’n wythnos dda i Ched Evans ac Andrew Hughes gyda Preston wrth iddynt gasglu chwe phwynt gyda buddugoliaethau yn erbyn Derby a Coventry. Sgoriodd Evans un o dair ei dîm yn erbyn y Meheryn ganol wythnos cyn ennill y gic o’r smotyn a arweiniodd at unig gôl y gêm yn erbyn Coventry.

Ar ôl colli yn erbyn Preston ganol wythnos, colli eto fu hanes Derby yn erbyn Birmingham ddydd Sadwrn. Dechreuodd Tom Lawrence y ddwy gêm ond bydd rhediad gwael diweddar ei dîm yn peri pryder a hwythau ddim ond un safle uwch ben safleoedd y gwymp.

Roedd dechreuad prin i Dom arall, Tom Bradshaw, yng ngêm Millwall yn Watford ac fe ddechreuodd George Thomas a Shaun MacDonald gemau QPR a Rotherham yn erbyn Norwich a Barnsley.

Gwylio o’r fainc a wnaeth Joe Morrell wrth i Luton daro nôl i guro’i gyn glwb, Bristol City, o dair gôl i ddwy ddydd Sul.

 

*

 

Cynghreiriau is

Mae Lincoln yn aros yn safleoedd ail gyfle’r Adran Gyntaf er gwaethaf colled yn erbyn Hull ddydd Sadwrn, canlyniad a gadarnhaodd ddyrchafiad awtomatig i Hull. Chwaraeodd Regan Poole a Brennan Johnson i’r Imps, sydd angen chwe phwynt o’u pedair gêm olaf i sicrhau lle yn y chwech uchaf.

Mae Blackpool hefyd yn aros yn y safleoedd ail gyfle er iddynt golli o gôl i ddim yn erbyn yr Amwythig. Canlyniad siomedig i gôl-geidwad Blackpool, Chris Maxwell, felly ond diwrnod i’w gofio i ymosodwr deunaw oed yr ymwelwyr, Charlie Caton, yn dechrau ei gêm gyntaf yn y gynghrair ar ôl creu argraff oddi ar y fainc yn ddiweddar.

Y tîm sydd yn fwyaf tebygol o ddisodli Blackpool yw Charlton, sydd ddim ond ddau bwynt y tu ôl iddynt er gwaethaf colled gartref yn erbyn Peterborough ddydd Sadwrn. Cafodd Adam Matthews ei ffafrio dros Chris Gunter fel cefnwr dde yn y gêm hon ond bydd y ddau yn sicr o chwarae’u rhan gyda phedair gêm mewn deuddeg diwrnod i ddod dros y pythefnos nesaf.

Mae gobeithion Ipswich o gyrraedd y chwech uchaf yn dechrau pylu wedi gêm gyfartal yn erbyn Wimbledon. Cafwyd perfformiad gwych gan David Cornell yn y gôl gan gynnwys arbed cic o’r smotyn hwyr ond er gwaethaf y llechen lân yn y cefn, methodd Gwion Edwards a’r gweddill sgorio yn y pen arall wrth iddi orffen yn ddi sgôr.

Mae rhediad gwych Wigan yn parhau ym mhen arall y tabl, maent yn aros allan o safleoedd y gwymp yn dilyn gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Burton. Roedd Lee Evans yn ddylanwadol unwaith eto, yn creu gôl Will Keane i achub pwynt i’w dîm.

Fleetwood a aeth â hi yn y gêm ganol tabl rhyngddynt a Doncaster yn Stadiwm Keepmoat. Chwaraeodd Joe Wright a Matthew Smith i Donny ond roedd Wes Burns wedi’i anafu i’r ymwelwyr.

Matthew Smith

Dechreuodd Luke Jephcott golled Plymouth yn Rhydychen ond yn dilyn hanner cyntaf gwych i’r tymor, mae’r Cymro bellach wedi mynd ddeunaw gêm heb sgorio.

Mae Casnewydd yn aros yn safleoedd ail gyfle’r Ail Adran gerfydd eu ewinedd yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Exeter ddydd Sadwrn, gyda phum Cymro’n dechrau’r gêm i’r Alltudion.

Chwaraeodd Josh Sheehan yng nghanol cae yn ôl ei arfer ac roedd ymddangosiad prin yn y gôl i Tom King. Ac ar ôl sgorio yn y fuddugoliaeth dros Crawley ganol wythnos, fe ddechreuodd Liam Shephard ac Aaron Lewis eto. Cadwodd yr ymosodwr ifanc, Lewis Collins, ei le hefyd ar ôl dechrau yn erbyn Crawley.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Sicrhaodd Hibenrian eu lle yn rownd gynderfynol Cwpan yr Alban gyda buddugoliaeth ar giciau o’r smotyn yn erbyn Motherwell ddydd Sadwrn. Dwy gôl yr un a oedd hi wedi 90 munud, gyda Christian Doidge yn rhoi Hibs ar y blaen gyda pheniad da yn gynnar yn yr ail hanner.

Chwaraeodd Aberdeen yn yr wyth olaf hefyd ond yn parhau i fod wedi’u hanafu y mae Ash Taylor a Ryan Hedges.

Diogelodd Dunfermline eu lle yng ngemau ail gyfle Pencampwriaeth yr Alban er i Owain Fôn Williams ildio tair yn erbyn Arbroath ddydd Sadwrn. Pedair gôl i dair a oedd hi ac maent bellach yn sicr o orffen yn y pedwar uchaf.

Dechreuodd Aaron Ramsey i Juventus yn erbyn Fiorentina ddydd Sul a methodd y Cymro gyfle gwych i unioni’r sgôr yn yr hanner cyntaf cyn i Alvaro Morata wneud hynny’n gynnar wedi’r egwyl; gôl yr un y sgôr terfynol a Rambo’n cael ei eilyddio hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Roedd buddugoliaeth arall i St. Pauli yn y 2. Bundesliga ddydd Sul, dwy gôl i un yn erbyn Furth y penwythnos hwn a James Lawrence yn chwarae’r gêm gyfan yng nghanol yr amddiffyn eto.

Nid oedd Robbie Burton yng ngharfan Dinamo Zagreb ar gyfer eu gêm hwy yn erbyn Hadjuk Split nos Sul yn dilyn ei gerdyn coch diweddar. Ac nid yw NK Istra Dylan Levitt yn chwarae tan nos Lun ond fe gafodd y Cymro ychydig dros ugain munud yn y golled ganol wythnos yn erbyn Rijeka.

 

Gwilym Dwyfor