Bydd Cymru’n croesawu cewri rygbi hemisffer y de i Gaerdydd yn yr hydref, wrth i Seland Newydd, De Affrica, Awstralia, a Fiji ddod draw i herio tîm Wayne Pivac.
Fe fydd yr holl gemau yn cael eu chwarae yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd, gyda Chyfres yr Hydref yn dechrau ar Hydref 30 yn erbyn Seland Newydd.
Wythnos wedyn, bydd Cymru’n chwarae yn erbyn De Affrica, yna Fiji ar Dachwedd 14, a bydd eu gem olaf yn erbyn Awstalia yn cael ei chwarae ar Dachwedd 20.
Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru eu bod nhw’n bwriadu chwarae gemau Cyfres yr Hydref 2021 o flaen torf lawn.
“Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau fod hyn yn cael ei wneud yn iawn ac yn sâff, er mwyn symud ymlaen a chyflwyno digwyddiadau ar yr raddfa yma mae’n rhaid cynllunio o flaen llaw, bod yn hyblyg, a pharatoi ar gyfer newidiadau,” meddai Steve Phillips, prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru.
“Mae gwerthu tocynnau’n gynnar ar gyfer Cyfres yr Hydref yn gam hanfodol yn y broses yma.”
“Edrych ymlaen”
“Nid oes amheuaeth fod rhestr gemau’r hydref yn un anferth, ac rydyn ni’n edrych ymlaen, yn enwedig gyda’r gobaith y bydd cefnogwyr yn ôl yn Stadiwm y Principality,” ychwanegodd prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac.
“Bydd hi’n agos at 21 mis ers cael y cyfle i chwarae o flaen ein dilynwyr yn ein stadiwm ein hunain, felly mae’n gyffrous iawn fod y gemau wedi cael eu cyhoeddi, ac rwy’n gobeithio ei fod yn cyffroi’r cyhoedd.
“Fel grŵp, nid ydyn ni wedi wynebu tîm o hemisffer y de eto, gyda thaith yr haf diwethaf wedi’i chanslo, a chyfres yr hydref wedi’i hailwampio.
“Felly, rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’r pedwar tîm i Gaerdydd ar gyfer pedair gem brawf enfawr.”