Mae gwerthu Oli McBurnie i Sheffield United wedi caniatáu i Abertawe droi colled sylweddol yn elw cyn-treth o £2.7miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2020.

Mae arwyddocâd ymadawiad McBurnie, am £20m y ôl y sôn, yn amlwg yng nghyfrifon diweddaraf Abertawe, sydd wrthi’n cael eu ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau.

“Mae elw clir yn braf iawn,” meddai prif weithredwr Abertawe, Julian Winter, wrth wefan y clwb.

“Addasu i’r gwymp”

“Yn naturiol, mae’r clwb yn dal i addasu i’r gwymp o’r Uwchgynghrair, gan gydbwyso’r broblem anodd o fod yn gystadleuol ar y cae ac yn ddarbodus yn ariannol oddi arno.

“Ond mae elw cyffredinol yn dilyn colled y flwyddyn flaenorol yn dangos llawer iawn o gynnydd ar y ffordd i’n model busnes cyffredinol o fod yn sefydlog yn ariannol.

“Mae’r gostyngiad mewn taliadau parasiwt [taliadau a roddir i glybiau sy’n disgyn o’r Uwchgynghrair], wrth gwrs, wedi cael ei ystyried yn dilyn ail dymor yn cystadlu yn y Bencampwriaeth.”

Dywedodd datganiad clwb fod y cyfrifon yn cynnwys gwerthu McBurnie, ymosodwr yr Alban, ond nid gwerthu amddiffynnwr Cymru, Joe Rodon, a ymunodd â Tottenham fis Hydref diwethaf.

Bydd tri mis cyntaf y pandemig, gyda dim cefnogwyr yn Stadiwm Liberty o 7 Mawrth 2020 ymlaen yn cael eu hadlewyrchu yn y ffigyrau hyn.

Ni thalwyd unrhyw ddifidendau i gyfranddalwyr yn ystod y flwyddyn ariannol.

Manylion

Cyhoeddodd Abertawe – a ddisgynodd o’r Uwchgynghrair ym mis Mai 2018 – golledion o £7m yn 2019 a £3.2m yn 2018 a dywedodd y clwb fod yr holl ffigurau a gyhoeddwyd yn rhai cyn-treth.

Roedd trosiant ar gyfer y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2020 wedi gostwng i £50m o’i gymharu â £68m ar gyfer y flwyddyn flaenorol, yn bennaf oherwydd y gostyngiad yn y taliadau parasiwt.

Roedd refeniw darlledu wedi gostwng i £38.9m o’i gymharu â £51.6m y flwyddyn flaenorol, gostyngodd refeniw masnachol i £2.6m o £3.4m, a gostyngodd incwm diwrnod gêm i £4.8m o £6.5m.

Dywedodd Winter: “Er na fydd effeithiau economaidd pandemig Covid-19 yn glir hyd nes y cyhoeddir cyfrifon y flwyddyn nesaf, adlewyrchir y cyfnod cychwynnol pan ataliwyd cystadleuaeth a’r gostyngiad dilynol mewn refeniw diwrnod gêm yn y set ddiweddaraf hon o ffigurau.

“Prif ffocws y clwb, o hyd, yw gallu bod yn sefydlog yn ariannol ar gyfer y tymor hir, nid yn unig ar gyfer ei gefnogwyr ond hefyd ei gymuned falch.”