Mae UEFA wedi rhoi’r hawl i dimau sy’n cystadlu ym mhencampwriaeth yr Ewros eleni ddewis carfan o 26 o chwaraewyr yn lle’r 23 arferol, yn ôl adroddiadau.

Cafodd y gystadleuaeth ei gohirio y llynedd yn sgil Covid-19.

Fis diwethaf, cadarnhaodd pwyllgor gwaith UEFA y byddai timau’n cael dod â phump o eilyddion i’r cae er mwyn atal blinder dwys ymhlith y chwaraewyr ar ddiwedd tymor prysurach nag arfer.

Pwyllgor timau cenedlaethol UEFA sydd wedi awgrymu’r newidiadau, ond mae angen sêl bendith y pwyllgor gwaith er mwyn iddyn nhw gael eu gweithredu.

Dydy hi ddim yn glir eto pryd fydd carfan Cymru’n cael ei henwi, ond mae’r newid yn golygu y bydd rhai o’r chwaraewyr ymylol a allai fod wedi colli allan ar le gael eu cynnwys.

Yn eu plith mae Matthew Smith, Rabbi Matondo a Brennan Johnson.