Cafodd Ryan Giggs ei adael allan o ‘Neuadd Enwogion’ Uwchgynghrair Lloegr ar y funud olaf yr wythnos hon – gyda Thierry Henry yn cymryd ei le yn y cyhoeddiad ddoe (dydd Llun 26 Ebrill).

Yn ôl y Daily Mirror, cafodd rheolwr Cymru ei hepgor ar y funud olaf ar ôl cael ei gyhuddo o ymosod ar ddwy fenyw ac o ymddygiad “a oedd yn rheoli neu orfodi”.

Roedd Giggs, 47, a enillodd 13 o bencampwriaethau gyda Manchester Utd, i fod yn un o’r chwaraewyr cyntaf i gael ei urddo ddydd Llun (26 Ebrill) – ochr yn ochr â phrif sgoriwr Uwchgynghrair Lloegr, Alan Shearer.

Ond yn ôl y Daily Mirror, cafodd Thierry Henry, cyn-ymosodwr chwedlonol Ffrainc ac Arsenal, ei gynnwys yn lle Giggs a chael ei gyhoeddi gyda Shearer fel y ddau chwaraewr cyntaf i gael eu hurddo i’r ‘Neuadd Enwogion’.

Yn y Llys

Mae’r Daily Mirror yn adrodd fod Giggs yn “siomedig iawn” â’r penderfyniad.

Mae Uwchgynghrair Lloegr bellach wedi gwneud rhestr fer o 23 cyn-chwaraewr i gefnogwyr gael pleidleisio drostynt er mwyn urddo chwe chwaraewr arall – ond mae Giggs wedi cael ei hepgor yn llwyr.

Bydd Giggs yn ymddangos yn y llys ddydd Mercher ac mae wedi dweud ei fod yn “deall difrifoldeb yr honiadau” ac y bydd pledio’n ddieuog.

Y rhestr fer o 23 ar gyfer pleidleisiau yw: Tony Adams, David Beckham, Dennis Bergkamp, Sol Campbell, Eric Cantona, Andrew Cole, Ashley Cole, Didier Drogba, Les Ferdinand, Rio Ferdinand, Robbie Fowler, Steven Gerrard, Roy Keane, Frank Lampard, Matt Le Tissier, Michael Owen, Peter Schmeichel, Paul Scholes, John Terry, Robin van Persie, Nemanja Vidic, Patrick Viera, ac Ian Wright.

Cyhuddo Ryan Giggs o ymosod ar ddwy ddynes ac o “ymddygiad a oedd yn rheoli neu orfodi”

Robert Page fydd yng ngofal tîm Cymru yn yr Ewros yr Haf hwn