Mae’r awdurdodau’n apelio am gymorth i atal tanau gwyllt ar ôl i’r gwasanaeth tân orfod ymateb i bron i 80 ohonyn nhw ledled y de dros y penwythnos.

Dywed Heddlu’r De fod erwau o dir wedi cael eu dinistrio ac maen nhw’n amau bod y tanau wedi cael eu cynnau’n fwriadol.

Roedd un o’r tanau yn ardal Abercarn ac fe beryglodd ddiogelwch gweithwyr yn yr ardal leol, tra bod tân arall wedi peryglu eiddo a bywydau da byw.

Bu’n rhaid i hofrenyddion gael eu hanfon i rai o’r tanau, ac fe wnaeth y gwasanaeth tân gydweithio â gwasanaethau eraill megis yr heddlu a Chyfoeth Naturiol Cymru ar sawl un o’r achosion.

Ymhlith y tanau gwaethaf mae un yn ardal Machen yn sir Caerffili, sydd wedi bod yn llosgi ers pedwar diwrnod dros 50 hectar o dir.

Mae’r gwasanaeth tân yn rhybuddio bod yr achosion yn tynnu adnoddau i ffwrdd o achosion eraill ac yn cael effaith sylweddol ar gymunedau, bywyd gwyllt a’r tirlun.

Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n defnyddio dronau, camerâu cylch-cyfyng a beiciau er mwyn atal achosion pellach.