Mae dyfodol Arlene Foster, arweinydd y DUP a phrif weinidog Gogledd Iwerddon, yn dal i fod yn ansicr ar ôl i’w chydweithwyr yn y blaid droi yn ei herbyn.
Mae lle i gredu bod nifer sylweddol o wleidyddion y DUP wedi llofnodi llythyr o ddiffyg hyder ynddi, a chafodd hwnnw ei ddosbarthu ymhlith yr Aelodau yn Stormont, aelodau seneddol yn San Steffan a’r blaid yn ehangach.
Pe bai’r niferoedd hynny yn cael eu cadarnhau a’u hailadrodd wedyn mewn unrhyw gystadleuaeth arweinyddiaeth yn y dyfodol – pleidlais sydd wedi’i chyfyngu i aelodau seneddol ac Aelodau Stormont – yna byddai ei chyfnod o bum mlynedd a hanner yn arweinydd yn dod i ben.
Mae hi’n dal yn aneglur a fyddai Arlene Foster yn herio pleidlais arweinyddiaeth.
Brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 27), ceisiodd y Prif Weinidog fychanu maint y sialens sy’n ei hwynebu.
“Mae straeon ar arweinyddiaeth yn codi o bryd i’w gilydd, ac mae’n un o’r adegau hynny,” meddai.
Fodd bynnag, cafodd cyfarfod a gafodd ei drefnu gan Arlene Foster gyda’r Ysgrifennydd Gwladol Brandon Lewis a’r dirprwy Brif Weinidog Michelle O’Neill ei ganslo.
Mewn datganiad, mae’r DUP yn mynnu bod cwestiynau ynghylch dyfodol Arlene Foster yn fater mewnol.
Dywed y blaid fod ei phrosesau etholiadol democrataidd ar gyfer ei haelodau a gwrthododd gynnig sylwadau pellach.
Arweinyddiaeth a Brexit
Bu aelodau’r DUP yn gynyddol anesmwyth ynghylch Arlene Foster ac arweinyddiaeth ehangach y blaid yn ystod y misoedd diwethaf.
Y prif beth sy’n peri pryder yw’r ffordd y mae hi’n ymdrin â phroses Brexit.
Mae beirniaid wedi ei chyhuddo o fethu â defnyddio dylanwad y blaid yn San Steffan – yn enwedig yn ystod ei bargen ‘hyder a chyflenwi’ gyda’r Ceidwadwyr – i sicrhau cytundeb Brexit a welodd Ogledd Iwerddon yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar yr un telerau â gweddill y Deyrnas Unedig.
Cafodd ei chyhuddo hefyd o beidio â bod yn ddigon croch yn yr wrthblaid i Brotocol dadleuol Gogledd Iwerddon, sy’n rheoli’r rhwystrau masnachu Brexit newydd rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, cyn ei gyflwyno ar ddechrau 2021.
Arlene Foster yn addo “delio ag ef ac yn symud ymlaen”
Cafodd Arlene Foster ei holi yn ystod ymweliad â chanolfan ieuenctid yn Belffast brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 27) a oedd ei harweinyddiaeth dan fygythiad.
“Byddwn yn delio ag ef ac yn symud ymlaen oherwydd mae gennyf bethau pwysicach i’w gwneud, gan gynnwys ein tywys drwy’r pandemig Covid hwn, gan gynnwys gwrando ar bryderon cymunedau dosbarth gweithiol,” meddai.
“Mae’r straeon hyn yn codi o bryd i’w gilydd. Nid yw hyn yn wahanol.
“Dydw i ddim wedi derbyn unrhyw lythyrau gan gymdeithasau etholaethol felly dydw i ddim yn mynd i sylwebu’n barhaus ar y materion hyn, maen nhw’n codi o bryd i’w gilydd.
“Rwy’n credu ei bod yn bwysig nodi bod y gwaith mawr i’w wneud.
“Mae’n bwysig ein bod yn parhau â’r gwaith o gyflwyno’r cyfyngiadau (Covid-19), a delio â Phrotocol Gogledd Iwerddon.”
Tŷ’r Cyffredin yn cymeradwyo cyflwyno gwasanaethau erthylu yng Ngogledd Iwerddon
Yn y cyfamser, mae Tŷ’r Cyffredin wedi cymeradwyo rheoliadau’n ffurfiol sy’n galluogi Brandon Lewis, Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, i weithredu ar gyflwyno gwasanaethau erthylu yng Ngogledd Iwerddon.
Pleidleisiodd aelodau seneddol San Steffan (o 431 i 89, mwyafrif o 342) o blaid Rheoliadau Erthylu (Gogledd Iwerddon) 2021.
Roedd tri aelod seneddol o Gymru – Stephen Crabb, David Jones a Virginia Crosbie wedi pleidleisio yn erbyn.
Doedd dim amser wedi’i neilltuo ar gyfer dadl cyn y bleidlais.
Daeth rheoliadau erthylu newydd i rym flwyddyn yn ôl, ac er bod ymddiriedolaethau iechyd unigol wedi bod yn cynnig gwasanaethau ar sail ‘ad hoc’, cafodd y rheoliadau eu cyflwyno gan nad oedd yr Adran Iechyd wedi comisiynu’r gwasanaethau’n ganolog ar sail rhanbarth cyfan eto.