Mae George North wedi cadarnhau bod yn rhaid iddo gael llawdriniaeth ar ei goes – a honno’n ei gadw allan o daith y Llewod i Dde Affrica.

Gadawodd e’r cae ag anaf i’w goes wrth i’r Gweilch guro’r Gleision o 36-14 yng Nghwpan yr Enfys y PRO14 yn Stadiwm Liberty.

Roedd e’n anelu am le ar yr awyren i Dde Affrica yn dilyn perfformiadau campus i Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

“Gall chwaraeon fod yn greulon,” meddai wrth gyhoeddi’r newyddion ar ei dudalen Twitter.

“Rydan ni i gyd yn gwybod y risgiau wrth i ni fynd ar y cae.

“Yn anffodus, wnes i rwygo fy ACL ddyd Sadwrn, a bydd angen llawdriniaeth arna i yr wythnos nesaf.

“Torcalonnus a dweud y lleiaf.”

Fel arfer, mae’n cymryd tua chwech i naw mis i wella ar ôl anaf o’r fath.

“Gall y Gweilch gadarnhau fod George North wedi dioddef anaf ACL i’w ben-glin dde, ac ni fydd yn gallu chwarae am weddill y tymor,” meddai’r Gweilch.

“Fe wnaeth asgellwr Cymru weld arbenigwr yn Llundain yn gynharach yr wythnos hon, a bydd yn cael llawdriniaeth wythnos nesaf.”

“Ergyd drom”

Roedd disgwyl i George North gael ei ddewis ar gyfer tîm y Llewod ar ôl cael Pencampwriaeth y Chwe Gwlad lwyddiannus, a chael ei symud oddi ar yr asgell i chwarae yng nghanol y cae.

Mae George North wedi ennill 102 o gapiau dros Gymru, a chwaraeodd dair gêm yn erbyn Awstralia ar daith y Llewod wyth mlynedd yn ôl.

Teithiodd gyda’r Llewod i Seland Newydd yn 2017 hefyd, ond nid oedd yn rhan o’r gemau prawf bryd hynny.

Yn ystod ei yrfa gyda Chymru, mae George North wedi sgorio 42 o geisiau – dim ond Shane Williams sydd wedi sgorio mwy na hynny.

“Mae’n ergyd drom i’r Llewod, ac yn ergyd drom i George hefyd,” meddai Warren Gatland wrth BBC Jersey.

“Dw i’n teimlo drosto, ac yn dymuno y bydd yn gwella’n sydyn, a gobeithio y bydd yn gallu dychwelyd at ffitrwydd llawn a dychwelyd at rygbi rhyngwladol yn fuan.

“Mae’n rhaid i ni sylwi fod gennym ni ddau neu dri chwaraewr fydd ddim yn gallu dod ar y daith oherwydd anafiadau.

“Dw i’n cymryd y bydd yna un neu ddau anaf arall hefyd rhwng nawr a’r adeg rydyn ni’n mynd ar yr awyren, ac yn hedfan i Dde Affrica.”

Dyma’r ail ergyd i Warren Gatland o fewn 24 awr, wedi i Joe Lanchbury, clo’r Wasps a Lloegr, rwygo ligament yn ei ben-glin.

Mae disgwyl iddo enwi carfan y Llewod ar Fai 6.

Pryderon am ffitrwydd George North ar ôl i’r Gweilch guro’r Gleision

Cafodd e anaf i’w goes wrth i’r Gweilch ennill o 36-14 yng Nghwpan yr Enfys y PRO14 yn Stadiwm Liberty