Mae’r Cymro Cymraeg Trystan Bevan yn rhagweld “amser cyffrous” wrth ddychwelyd i Barc yr Arfau gyda Gleision Caerdydd.

Bydd yn Gydlynydd Perfformiad Uchel sydd newydd ei greu, ac fe fydd yn gyfrifol am gydlynu, cysoni a llunio strategaeth ar gyfer pob elfen o berfformiad rygbi’r rhanbarth.

Treuliodd Trystan Bevan 11 mlynedd yn gweithio fel pennaeth perfformiad Gleision Caerdydd, lle bu’n gweithio gyda’r cyfarwyddwr rygbi Dai Young am y tro cyntaf.

Yn ddiweddarach, ymunodd â Dai Young yn Wasps, lle bu’n Gydlynydd Perfformiad am bedair blynedd.

“Penodiad pwysig”

Mae Dai Young yn credu y bydd penodi Trystan Bevan yn hanfodol wrth barhau i wella a datblygu carfan Gleision Caerdydd a phob agwedd o berfformiad elît o fewn y clwb.

“Rwyf wedi gweithio’n agos gyda Trystan ers nifer o flynyddoedd ac rwyf 100% yn hyderus y bydd yn cael effaith fawr yma,” meddai.

“Bydd yn help mawr i mi a’r holl benaethiaid adran gyda’i brofiad helaeth mewn perfformiad uchel, sylw i fanylion a meddwl dadansoddol, a bydd yn gyrru safonau yn unigol ac ar y cyd.

“Mae’n benodiad pwysig, a fydd yn arwain at nifer o welliannau ar draws pob maes perfformiad.”

“Amser cyffrous”

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i rôl gyda Gleision Caerdydd, lle mae gen i gymaint o atgofion melys, ac alla i ddim aros i ddechrau arni,” meddai Trystan Bevan.

“Mae hwn yn amlwg yn dîm a sefydliad rwy’n angerddol amdano ac mae gennyf berthynas enfawr ag e.

“Mae llawer iawn o botensial o fewn y garfan a’r llwybrau datblygu, a rhai pobol wych eisoes ar lawr gwlad.

“Gyda chynlluniau ar y gweill ar gyfer y ganolfan hyfforddi ym Mhentwyn a strategaeth hirdymor ar waith, mae hwn yn amser cyffrous i’r clwb ac rwy’n hyderus y gallaf ddod â gwerth pellach i’r grŵp hwn a helpu i godi safonau a chyflwyno gwelliannau.”

Y Cymro a’r gwibiwr Olympaidd

Alun Rhys Chivers

Mae Darren Campbell wedi ennill medal Olympaidd, hyfforddi Jonah Lomu i redeg yn gyflym, ac newydd sgrifennu llyfr am ei fagwraeth gyda gangsters