Mae Michael Flynn, rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, wedi canmol ei chwaraewyr yn dilyn “buddugoliaeth hollol ragorol” o 4-0 yn erbyn Scunthorpe yn Rodney Parade neithiwr (nos Fawrth, Ebrill 27).

Mae’r canlyniad yn golygu bod tynged yr Alltudion yn eu dwylo’u hunain yn y ras am gemau ail gyfle’r Ail Adran, gyda dwy gêm gynghrair yn weddill.

Gôl i’w rwyd ei hun gan George Taft roddodd y flaenoriaeth iddyn nhw, cyn i Lewis Collins a dwy gôl Mickey Demetriou roi’r gêm y tu hwnt i afael yr ymwelwyr yn yr ail hanner.

Cheltenham, sydd ar frig y gynghrair, yw eu gwrthwynebwyr nesaf ddydd Sadwrn (Mai 1), ac mae Flynn yn dweud y bydd honno’n “gêm anodd”.

“Ond does dim ots beth mae’r timau eraill yn ei wneud,” meddai.

“Os enillwn ni ein dwy gêm olaf, yna byddwn ni yn y gemau ail gyfle.

“Dw i’n hollol onest â’r chwaraewyr ac unrhyw beth dw i’n ei ddweud wrth y cyfryngau, bydda i eisoes wedi ei ddweud e wrth y chwaraewyr.”

Yn dilyn perfformiad cyflawn, mae’n gwrthod canmol unigolion, gan ddweud eu bod nhw i gyd yn “hollol ragorol” yn yr hanner cyntaf.

“Cawson ni 77% o’r meddiant yn yr hanner cyntaf sy’n beth dydych chi ddim yn clywed amdano o safbwynt tîm Casnewydd,” meddai.

“Os edrychwch chi ar y gôl gyntaf, dw i’n credu bod bron i 20 pàs cyn y gôl.”