Fe fydd Ryan Giggs, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn mynd gerbron ynadon heddiw (dydd Mercher, Ebrill 28), wedi’i gyhuddo o ymosod ar ddwy ddynes ac o ymddygiad o reoli drwy orfodaeth.

Mae’r dyn 47 oed wedi’i gyhuddo o achosi gwir niwed corfforol i’w gyn-gariad Katie Greville, 36, yn ei gartref ym Manceinion Fwyaf ar Dachwedd 1.

Mae e hefyd wedi’i gyhuddo o ymosod ar ddynes yn ei 20au, a’r gred yw mai chwaer ei gyn-gariad yw’r ddynes dan sylw, ac o ymddygiad o reoli Katie Greville drwy orfodaeth yn ystod eu perthynas rhwng 2017 a 2020.

Mae Ryan Giggs yn gwadu’r cyhuddiadau, gan ddweud y bydd yn pledio’n ddieuog.

Cefndir

Cafodd yr heddlu eu galw i gartref Ryan Giggs am 10.05yh ar Dachwedd 1.

Cafodd dynes yn ei 30au driniaeth am anafiadau yn y fan a’r lle, a chafodd Giggs ei arestio a’i ryddhau ar fechnïaeth.

Mae lle i gredu bod Giggs a Katie Greville wedi cwrdd pan oedd hi’n gweithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus ar ei fusnes Hotel Football gyferbyn â stadiwm Old Trafford.

Cafodd ei phenodi’n bennaeth cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu GG Hospitality Giggs a’i gyn gyd-chwaraewr Gary Neville yn 2018.

Cafodd hi swydd newydd fis Gorffennaf y llynedd ar ôl bod yn gweithio ar lansiad eu gwesty, y Stock Exchange Hotel ym Manceinion.

Robert Page sydd wrth y llyw gyda Chymru ar hyn o bryd, ac fe fydd yn eu harwain nhw yn yr Ewros yn absenoldeb Giggs, oedd wedi ennill 64 o gapiau dros ei wlad.

Yn un o fawrion Manchester United, enillodd e’r Uwch Gynghrair 13 o weithiau, Cynghrair y Pencampwyr ddwywaith, Cwpan FA Lloegr bedair gwaith a Chwpan y Gynghrair dair gwaith.

Mae e hefyd yn gyd-berchennog Clwb Pêl-droed Salford.

Ryan Giggs wedi’i hepgor o ‘Neuadd Enwogion’ Uwchgynghrair Lloegr yn dilyn cyhuddiadau

Y Daily Mirror yn adrodd fod Thierry Henry wedi cymryd ei le ar y funud olaf