Bu’n rhaid i Boris Johnson wynebu gwrthryfel yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr (nos Fawrth, Ebrill 27), wrth i aelodau seneddol Ceidwadol ei annog i gyfaddawdu ynghylch pwy sy’n talu am welliannau diogelwch tân allweddol ar ôl Grenfell.
Gwrthryfelodd cyfanswm o 31 o Dorïaid mewn ymgais i gefnogi newid i’r Mesur Diogelwch Tân, gyda’r nod o ddiogelu lesddeiliaid a thenantiaid rhag gorfod talu costau gwerth biliynau o bunnoedd.
Roedd Tŷ’r Arglwyddi wedi diwygio’r Mesur i atal costau ar gyfer gwaith megis cael gwared ar gladin anniogel o flociau o fflatiau rhag cael ei drosglwyddo i breswylwyr nes bod cynllun cymorth statudol ar waith.
Ond fe wnaeth y Llywodraeth wyrdroi’r newid hwn yn Nhŷ’r Cyffredin, gydag aelodau seneddol yn gwrthod gwelliant Tŷ’r Arglwyddi o 320 i 256 – mwyafrif o 64.
Roedd Syr Iain Duncan Smith, cyn-arweinydd y Ceidwadwyr, a’r cyn-weinidogion Esther McVey, Damian Green a Syr Bob Neill ymhlith y rhai wnaeth wrthryfela.
Yna, roedd ffrae arall yn Nhŷ’r Cyffredin wrth i aelodau seneddol gymeradwyo gwelliant newydd i amddiffyn lesddeiliaid, sy’n golygu y bydd y Bil yn dychwelyd gerbron aelodau seneddol heddiw (dydd Mercher, Ebrill 28).
Ar hyn o bryd, mae’r Bil yn symud rhwng y ddau Dŷ yn y broses seneddol a elwir yn ping-pong.
Mae angen i’r ddau Dŷ ddod i gytundeb ar eiriad y Bil cyn dydd Iau, pan fo disgwyl i’r sesiwn seneddol bresennol ddod i ben, neu fel arall bydd yn methu.
“Yr hyn rwy’n ceisio’i wneud yw mynegi cri am help fy etholwyr ac eraill ledled y wlad,” meddai Iain Duncan Smith yn San Steffan.
“Gadewch i ni ddod o hyd i ffordd o sicrhau bod y rhai oedd yn gyfrifol nawr yn talu’r bil.”
“Dyletswydd”
Dywedodd cyn-weinidog cabinet y Ceidwadwyr, Dr Liam Fox, a gafodd ei restru fel un nad oedd wedi pleidleisio ar welliant Tŷ’r Arglwyddi, fod gan aelodau seneddol “ddyletswydd” i ddarparu “atebion” i etholwyr a gafodd eu heffeithio gan y mater.
“Sut ydyn ni’n ei wneud?” gofynnodd.
“Yn gyntaf oll, ar 11 Mai yn Araith y Frenhines mewn deddfwriaeth lesddaliad mae angen i ni gyflwyno’r mater hwn ac ymdrin ag ef unwaith ac am byth – ac mae gan y Llywodraeth y gallu i roi’r sicrwydd hwnnw inni heddiw.
“Yn ail, yn y ddeddfwriaeth Diogelwch Adeiladu sy’n cael ei chyflwyno, mae angen llunio teitl hir y Bil hwnnw yn y fath fodd fel y gallwn ddelio â gwelliannau sy’n ymwneud â phobol briodol ar gyfer costau archwilio diogelwch tân – sydd hefyd o fewn gallu’r Llywodraeth.”
Ond disgrifiodd y Gweinidog Tai Christopher Pincher welliant Tŷ’r Arglwyddi fel un “anymarferol” ac “amhriodol”, gan rybuddio ei fod yn peryglu’r Bil rhag dod yn gyfraith.
“Os na fyddwn yn datrys y Bil hwn yr wythnos hon, ni fydd asesiadau risg tân yn cwmpasu’r elfennau hanfodol hynny… a gallant barhau felly i gael eu hanwybyddu gan berchnogion adeiladau llai cyfrifol,” meddai.
‘Jôc greulon’
“Rydym wedi ein harswydo’n fawr bod y rhan fwyaf o aelodau seneddol wedi pleidleisio am y trydydd tro i orfodi lesddeiliaid diniwed ar draws y wlad i dalu’r bil am drwsio a lliniaru diffygion diogelwch tân,” meddai Grenfell United, mudiad teuluoedd Grenfell a goroeswyr mewn profedigaeth, yn dilyn y bleidlais.
“Mae’n chwerthinllyd fod y Llywodraeth yn disgwyl i ni gredu eu hesgusodion dros wrthod y gwelliant.
“Mae pleidleisiau’r Ceidwadwyr yn dangos bod eu honiad o fod yn blaid sy’n cefnogi perchnogion tai tro cyntaf yn jôc greulon.”