Mae blog ar wefan Merched Cymru, mudiad llawr gwlad sydd am warchod hawliau menywod a merched yn seiliedig ar ryw, yn cyhuddo Chwarae Teg o beidio â gwrando ar fenywod Cymru.
Daw’r cyhuddiad yn dilyn cyfarfod hystingau ar Ebrill 21 gyda chynrychiolwyr o brif bleidiau gwleidyddol Cymru.
Cafodd cwestiynau eu cyflwyno ymlaen llaw, yn ôl y blog, sy’n dweud bod “yr hyn ddigwyddodd yn y digwyddiad hwnnw’n gwbl syfrdanol”.
Yn cynrychioli Plaid Cymru roedd Helen Fychan, yr ymgeisydd dros etholaeth Pontypridd.
Mae’r blog yn dweud iddi “siarad â chryn angerdd am effaith negyddol ystrydebau rhywedd”, gan gynnwys y ffordd mae lliwiau dillad a nwyddau i fechgyn a merched yn effeithio dyheadau plant.
Dywed y blog fod cryn ymateb i’w sylwadau trwy gyfrwng sylwadau a chwestiynau ar y wefan, gan gynnwys cwestiwn am effaith hunanddiffinio ar degwch a diogelwch y byd chwaraeon i ferched ac “annog” plant “i feddwl efallai eu bod nhw’n drawsryweddol”.
Yn dilyn y cwestiynau hyn, eglurodd gweinyddwr y sesiwn fod y cwestiynau i’r panel wedi cael eu dewis ymlaen llaw ac nad oedd modd gofyn rhagor o gwestiynau, cyn mynd yn ei blaen i atgoffa pobol “fod hwn yn ddigwyddiad cynhwysol a fyddwn ni ddim yn goddef unrhyw ymddygiad yr ydym yn ei ystyried yn rhwygol” a phostio polisi cydraddoldeb y mudiad.
‘Ymosodol’
Mae’r blog wedyn yn cyhuddo Helen Antoniazzi, y gweinyddwr, o “ymateb yn ymosodol”.
“Wrth ymateb i feirnidaeth panelwyr o ystrydebau rhyw, cafodd dau gwestiwn cwrtais eu postio yn y cyfleuster sgwrsio,” meddai’r blog.
“Mewn digwyddiad hystingau ar gydraddoldeb rhyw.
“Wedi’i gynnal gan elusen cydraddoldeb menywod wedi’i hariannu gan y llywodraeth.”
Mae’n dweud bod ymateb y gweinyddwr yn “llawdrwm”, a bod hynny wedi arwain at ragor o ymateb yn y cyfleuster sgwrs:
- “Mae’n ymddangos yn ddiofal peidio â mynd i’r afael ag un o’r pynciau mwyaf sy’n wynebu menywod heddiw (cyfuno rhyw a rhywedd).
- “Ydy hyn yn golygu na allwn ni ofyn am y mater hwn y mae gan nifer o fenywod bryderon gwirioneddol yn ei gylch?”
- “Helen, ydych chi’n dweud wrthym nad yw’n briodol i bobol yn y fforwm yma godi pryderon ynghylch triniaeth merched yng Nghymru?”
Wrth ymateb, dywedodd hi, “Fel nodwyd yn gynharach, cafodd cwestiynau eu cyflwyno ymlaen llaw ac maen nhw eisoes wedi’u cadarnhau. Bydd unrhyw un sy’n defnyddio’r sgwrs i bostio sylwadau sy’n rhwygol neu’n sarhaus yn cael eu symud o’r digwyddiad”.
Cafodd ei holi wedyn am “ryddid i drafod materion yn ymwneud â menywod a merched heb eich caniatâd (fel sefydliad sydd wedi’i ariannu’n gyhoeddus) lle efallai bod gennyf farn wahanol i chi”.
Mae’r blog yn nodi mai Dee McCullough, perchennog busnes, oedd wedi gofyn y cwestiynau a’i bod hi wedi cael ei gorfod i adael y digwyddiad a bod “nifer o gyfranogwyr eraill yn teimlo oherwydd gweithredodd Helen nad oedd croeso iddyn nhw a’u bod nhw hefyd wedi gadael y digwyddiad”.
Dywed y blog bod enw dwy o fenywod wedi’u cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol gan gyfrif dienw yn honni eu bod nhw’n “drawsffobig”.
Mae’r blog yn cyhuddo Chwarae Teg o “hwyluso diwylliant o ofn lle mae menywod yn ofni lleisio’u barn a chodi materion am eu hawliau’n seiliedig ar ryw”, gan ddweud bod “hyn wedi annog aflonyddu a difenwi’r ychydig fenywod hynny sy’n ddigon dewr i leisio’u barn” a’i fod yn “gwbl annerbyniol”.
Ymateb
“Mae safbwynt Chwarae Teg yn glir a hynny yw bod menywod traws yn menywod,” meddai llefarydd ar ran Chwarae Teg.
“Nid yw cydraddoldeb menywod a chydraddoldeb traws yn gwrthddweud nac yn cystadlu â’i gilydd.
“Mae ein digwyddiadau wedi’u cynllunio i fod yn fannau cynhwysol a diogel i’r rhai sy’n bresennol.
“Ni fyddai caniatáu dadl dros hunanddiffinio ac eithrio menywod traws yn unol â’n gwerthoedd.
“Gellir gweld datganiad sefyllfa Chwarae Teg ar hunaniaeth rhywedd yn – https://chwaraeteg.com/hunaniaeth-rhywedd.”