Mae cwmni banciau TSB yn lansio mwy na 40 o wasanaethau “pop up” newydd, fydd ymddangos ledled Prydain – gan gynnwys ym Mhrestatyn a Glyn-nedd.
Daw hyn yn dilyn cyhoeddiadau blaenorol gan y banc y byddai 153 o ganghennau yn cael eu cau eleni.
Dywed y banc y byddan nhw’n cefnogi cwsmeriaid gyda gwasanaethau bancio fel gwneud taliadau, cael help gyda chynhyrchion, a helpu gyda phrofedigaethau.
Mae rhai yn cael eu lansio ym mis Ebrill, gydag eraill i ddilyn erbyn yr haf.
Byddan nhw’n gweithredu un diwrnod yr wythnos mewn cymunedau lleol, wedi’u lleoli mewn canolfannau megis llyfrgelloedd, neuaddau tref, canolfannau cymunedol a chanolfannau busnes.
Mae’r “pop ups” ledled Cymru, Lloegr a’r Alban wedi’u lleoli’n bennaf mewn lleoliadau lle byddai’n cymryd mwy nag 20 munud i gwsmeriaid deithio i’w cangen TSB agosaf.
Mae’r banc hefyd yn cymryd rhan yn y cynlluniau peilot Mynediad i Arian Parod Cymunedol (CACP) i helpu pobol i gael gafael ar eu harian.
“Er ein bod wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y cwsmeriaid sy’n defnyddio bancio digidol, rydym yn gwybod bod cael gafael ar wasanaethau bancio ac arian parod yn parhau i fod yn bwysig i lawer o gwsmeriaid ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd arloesol i’w helpu,” meddai Carol Anderson, cyfarwyddwr TSB.
“Bydd y gwasanaeth pop up yn cefnogi ein cwsmeriaid mewn rhannau o’r wlad lle mae’n cymryd mwy o amser i gyrraedd cangen TSB.
“Bydd y pop ups a’r cynllun peilot mynediad at arian parod yn y dyfodol yn profi’r galw am y mathau hyn o wasanaethau, gan roi cipolwg i ni ar beth arall y gallwn ei wneud ar gyfer cwsmeriaid yn y dyfodol.”