Mae’r gwrthbleidiau wedi condemnio sylwadau ymgeisydd Torïaidd yn dweud mai malaria “yw ffordd natur o reoli’r boblogaeth”.
Fe wnaeth Edward Dawson, sy’n cynrychioli’r Ceidwadwyr Cymreig ym Mlaenau Gwent yn etholiad y Senedd, wneud y sylwadau wrth ateb trydariad gan Boris Johnson am y salwch.
“Gwaith da, ond onid hyn yw ffordd natur o reoli twf y boblogaeth ddynol hefyd?” meddai Edward Dawson, wrth ateb trydariad gan brif weinidog Prydain yn rhannu erthygl oedd yn awgrymu bod cynnydd yn y broses o greu brechlyn yn erbyn malaria.
Mae Llafur Cymru wedi dweud bod rhaid i Andrew RT Davies, arweinydd y blaid, wneud y “peth iawn” ac ymbellhau oddi wrth sylwadau ei gydweithiwr.
“Haeddu ein trugaredd”
“Ddoe, fe wnaeth y BBC ac ITV gadarnhau bod y Prif Weinidog wedi gwneud sylwadau ffiaidd am weld “cyrff yn pentyrru’n uchel” cyn yr ail gyfnod clo,” meddai Carolyn Harris, dirprwy arweinydd Llafur Cymru.
“Heddiw, mae un o’i ymgeiswyr yng Nghymru wedi dweud mai malaria, salwch marwol sy’n achosi miloedd o farwolaethau dros y byd bob blwyddyn, yw ‘ffordd natur o reoli’r boblogaeth’.
“Nid yw’n bosib iddo beidio â gwybod fod malaria’n targedu plant yn rhai o rannau mwyaf difreintiedig y byd yn anghymesur.
“Mae’r plant yma angen ein cymorth, ac maen nhw’n haeddu ein trugaredd – nid sylwadau dideimlad fel hyn.
“Am yr ail waith o fewn deuddydd, mae’r cyfrifoldeb ar Andrew RT Davies i wneud y peth iawn, ac ymbellhau oddi wrth sylwadau sydd wedi’u gwneud gan un o’i gydweithwyr, a chondemnio’r sylwadau afiach sydd wedi’u gwneud gan arweinydd y blaid.
“Os nad yw e’n gwneud hynny, bydd pobol Cymru’n barnu, yn gywir, ei fod e’n cytuno gyda’r ddau.”
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru wrth WalesOnline fod y “sylw yma – sy’n sinistr ac yn peri pryder – yn dangos nad yw Mr Dawson yn addas i ddal swydd gyhoeddus”.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio i’r mater.