Mae ymchwil wedi datgelu bod S4C yn cyfrannu bron i £200m i economi’r Deyrnas Unedig – sydd mwy na dwywaith yn fwy nag y mae’r sianel yn ei gael mewn cyllid.
Yn ei blwyddyn ariannol ddiwethaf, 2020-21, derbyniodd y sianel £74.5m o ffi drwydded y BBC a £21.85m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Fodd bynnag, datgelodd ymchwil Arad Research ei bod wedi cael cyfanswm effaith economaidd o £197.4m yn 2019-20.
Effeithiodd oddeutu £141.1m ar economi Cymru, gyda £18.2m ohono yn Sir Gaerfyrddin lle mae pencadlys y sianel.
Roedd hynny’n cynnwys effaith uniongyrchol o £96.7m o’i wariant ar nwyddau, gwasanaethau a chyflogau, gan gynnwys rhai gweithwyr llawrydd.
Cafodd y sianel hefyd effaith anuniongyrchol o £800,000 o’i denantiaeth angori o adeilad diwydiannau creadigol Yr Egin yng Nghaerfyrddin.
Cynhyrchodd ei wariant alw a chyflogaeth bellach sy’n cefnogi tua 2,334 o weithwyr a gweithwyr llawrydd yn y Deyrnas Unedig, ac amcangyfrifwyd bod 2,229 ohonynt wedi’u lleoli yng Nghymru a 245 yn Sir Gaerfyrddin.
“Dangos effaith gadarnhaol S4C ledled Cymru”
“Mae hwn yn un hynod bwysig [ymchwil] i ni gan fod y canlyniadau wedi eu cynnwys yn ein cyflwyniad i Adran Technoleg Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig fel rhan o ddadl dros setliad ariannol S4C o fis Ebrill 2022 ymlaen,” meddai Owen Evans, prif weithredwr S4C wrth Business Live.
“Ni fu unrhyw amheuaeth erioed yn fy meddwl am bwysigrwydd S4C i economi Cymru.
“Mae’r ffaith y gall S4C gael effaith ar economi’r Deyrnas Unedig hefyd, yn ogystal ag effaith yng Nghymru ac yn Sir Gaerfyrddin yn arbennig drwy ein pencadlys yng Nghanolfan S4C Yr Egin, yn galonogol dros ben.
“Roedd yr adleoli o Lanisien i’r Egin yn sicrhau bod S4C ar flaen y gad o ran creu cyfleoedd gwaith yng Ngorllewin Cymru ac rwy’n hynod falch bod gennym swyddfeydd yng Nghaernarfon, Caerfyrddin a Chaerdydd erbyn hyn.
“Mae hyn yn dangos effaith gadarnhaol S4C ledled Cymru.”