Mae Nicola Sturgeon yn galw eto am ymchwiliad cyhoeddus i ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r pandemig, yn dilyn honiadau bod Boris Johnson wedi gwneud sylwadau “gwarthus”.

Yn sgil adroddiadau fod Boris Johnson wedi dweud y byddai’n well ganddo adael i “gyrff bentyrru’n uchel” na chyflwyno trydydd cyfnod clo, mae prif weinidog yr Alban yn dadlau bod teuluoedd sy’n galaru’n haeddu atebion ynghylch yr ymateb i’r pandemig

Mae Boris Johnson yn gwadu gwneud y sylwadau, er bod y sylwadau wedi cael eu cadarnhau i’r BBC ac ITV.

Mae Llafur Cymru’n galw ar Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, i gondemnio sylwadau Boris Johnson.

“Peri cryn ofid”

Bydd teuluoedd sy’n galaru wedi cael “sioc” o glywed y sylwadau honedig, “ond ni fydd yn syndod iddyn nhw” meddai Nicola Sturgeon.

“Wrth ystyried y sylwadau honedig gan y prif weinidog, mae’n bwysicach nag erioed fod teuluoedd yn cael atebion, ac mae’n warthus fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod y cais ar yr un diwrnod ag y maen nhw wedi gweld a chlywed y sylwadau ffiaidd yma,” meddai, wrth alw am ymchwiliad cyhoeddus.

“Mae’r sylwadau honedig yma yn ymwneud â bywydau dynol, â ffrindiau a theuluoedd pobol, ac ni ddylid fyth anghofio hynny.

“Bydd y rhan fwyaf o bobol wedi cael sioc, ond ni fydd sylwadau honedig y prif weinidog yn syndod iddyn nhw ond i deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid, bydd darllen y sylwadau yn peri cryn ofid.

“Dw i’n disgwyl i Lywodraeth yr Alban gael ei harchwilio am ein gweithredoedd, a dw i wedi ymroi i sefydlu ymchwiliad cyhoeddus eleni – rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymrwymo i wneud yr un fath.”

Mae Nicola Sturgeon wedi addo cynnal ymchwiliad cyhoeddus i ymateb yr Alban i’r pandemig erbyn diwedd y flwyddyn, os na fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cytuno i gynnal archwiliad pedair cenedl.

“Os caf fy ailethol, byddwn ni’n dechrau’r gwaith o sefydlu’r ymchwiliad ar unwaith, gan gynnwys trafod natur yr ymchwiliad, a’i gyfrifoldebau, gyda theuluoedd ac eraill.”

Johnson yn gwadu dweud y byddai’n well ganddo adael i “gyrff bentyrru’n uchel” na chloi eto

Y Daily Mail wedi cyhoeddi’r honiad ar y dudalen flaen heddiw