Mae Llafur Cymru’n galw ar Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, i gondemnio sylwadau Boris Johnson, wedi i bapurau newydd gyhoeddi honiad fod prif weinidog Prydain wedi dweud ei fod yn barod i adael i “gyrff bentyrru’n uchel” yn hytrach na chyflwyno cyfnod clo arall.
Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi beirniadu’r sylwadau, gan ddweud eu bod nhw’n “achosi gofid sylweddol i deuluoedd sydd mewn galar”.
Mae Carolyn Harris, dirprwy arweinydd Llafur Cymru, wedi galw ar bob ymgeisydd Torïaidd i wrthod y sylwadau.
Dydy Boris Johnson ddim wedi ymddiheuro, ac mae’n gwadu gwneud y sylwadau a gafodd eu cyhoeddi ar dudalen flaen y Daily Mail ddoe (dydd Llun, Ebrill 26), ac yn gwadu ei ran yn y ffrae lobïo.
Yn ôl y sôn, gwnaed y sylwadau ar ôl i’r prif weinidog gytuno i’r ail set o gyfyngiadau clo, gan awgrymu bod Boris Johnson yn barod i wynebu cynnydd mewn marwolaethau yn hytrach na gorchymyn trydedd set o gyfyngiadau – rhywbeth y cafodd ei orfodi i’w wneud yn y pen draw.
“Sylwadau anfaddeuol”
“Mae yna 127,434 o bobol wedi marw yn y Deyrnas Unedig oherwydd Covid. 127,434 o deuluoedd a fydd wedi colli anwyliaid o’u cartrefi am byth,” meddai Vaughan Gething.
“Dylai fod gan Boris Johnson gywilydd.
“Bydd sylwadau anfaddeuol y prif weinidog yn achosi gofid sylweddol i deuluoedd sydd mewn galar, a bydd hyn yn cael ei waethygu os yw’r Torïaid yng Nghymru’n gwneud fel maen nhw wastad wedi’i wneud – dilyn eu harweinydd yn Llundain.
“Mae’n syndod fod y Torïaid yn gallu ei groesawu i Gymru gyda breichiau agored, ac yna edrych i fyw llygaid pleidleiswyr a gofyn am eu pleidlais.”
“Dim llai na gwarth”
“Nid yw’r sylwadau sydd wedi’i hadrodd, a’u priodoli i’r Prif Weinidog, yn ddim llai na gwarth,” cytunodd Carolyn Harris, dirprwy arweinydd Llafur Cymru.
“Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cymryd agwedd ofalus a phwyllog tuag at y pandemig er mwyn arbed bywydau, ac mae’n anghredadwy fod unrhyw un – heb sôn am Brif Weindiog Prydain – yn gallu bod mor ddideimlad a diofal.
“Yr hyn sy’n peri mwy o bryder yw y gallai’r prif weinidog ymweld â gogledd Cymru ar ôl i’w sylwadau ddod i’r amlwg, a pheidio â chymryd amser i gynnig yr ymddiheuriad lleiaf erioed hyd yn oed.
“Rhaid i arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd gondemnio sylwadau’r Prif Weinidog ar unwaith. Yn wir, rhaid i bob ymgeisydd Torïaidd sy’n chwilio am bleidleisiau ei gwneud hi’n glir nad yw barn Boris Johnson yn cael ei chroesawu yma yng Nghymru.”
Gwadu’r honiadau
Yn y cyfamser, mae Gweinidog Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud nad oedd hi’n ymwybodol fod unrhyw wleidydd wedi dweud unrhyw beth am adael i “gyrff bentyrru’n uchel”.
“Mae’r Prif Weinidog yn dweud na ddywedodd hynny, a dywedodd hynny ddoe, wrth Sky dw i’n meddwl, felly dw i’n cymryd gair y Prif Weinidog,” meddai Therese Coffey wrth Sky News.
“Dw i ddim yn ymwybodol fod unrhyw wleidydd wedi dweud unrhyw beth fel hynny, nac unrhyw berson arall dw i’n gwybod amdano.
“Mae yna elfen yma o geisio parhau i wneud y brif dasg. Rydyn ni wedi dod trwy’r amser heriol yma, dydyn ni ddim allan ohoni o hyd, felly dyna pam ein bod ni’n parhau i annog pobol i gymryd eu brechlynnau.”
Wrth siarad â gohebydd yn Wrecsam, gwadodd Boris Johnson ei fod wedi gwneud y sylw.
“Dw i’n credu mai’r peth pwysig mae pobol eisiau i ni ei wneud fel llywodraeth yw sicrhau bod y cyfnodau clo yn gweithio,” meddai Boris Johnson.
“Maen nhw wedi – a dw i yn – talu teyrnged i bobol y wlad yma, ein holl wlad ni, maen nhw wedi dod at ei gilydd, a drwy weithio ar y rhaglen frechu, mae’r afiechyd dan reolaeth.”