Mae un o weinidogion San Steffan wedi amddiffyn y prif weinidog Boris Johnson, gan ddweud y bydd e’n egluro’n llawn sut y talodd e allan o’i boced ei hun am y gwaith o adnewyddu ei fflat yn Downing Street.

Daw sylwadau Liz Truss, yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, wrth i’r Blaid Lafur alw am ymchwiliad i’r awgrym mai rhoddwyr i’r Blaid Geidwadol sydd wedi talu am y gwaith.

Yn ôl Liz Truss, mae hi wedi cael sicrwydd fod Boris Johnson wedi dilyn y canllawiau ar gyfer gweinidogion, ac y bydd e’n gwneud cyhoeddiad maes o law.

Ond mae Llafur yn galw ar y Comisiwn Etholiadol i gynnal ymchwiliad llawn yn dilyn sylwadau gan Dominic Cummings, ei gyn-brif ymgynghorydd, ynghylch cymorth rhoddwyr y blaid.

Yn ôl Angela Rayner, dirprwy arweinydd Llafur, mae yna “ddrewdod” o amylch y Llywodraeth, ac mae’n galw ar Boris Johnson i annerch San Steffan yfory (dydd Llun, Ebrill 26) i egluro’r sefyllfa.

Mae Liz Truss wedi wfftio awgrym Dominic Cummings.

“Dw i wedi cael sicrwydd fod yr holl reolau wedi cael eu dilyn yn llawn a dw i’n gwybod ei fod e wedi talu’r gost ar gyfer adnewyddu’r fflat,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky News.

“Dw i’n ei gredu’n llwyr ac yn hyderus fod y prif weinidog wedi gwneud hynny.

“Yr hyn mae pobol eisiau ei wybod yw fod y prif weinidog, yn unol â’r rheolau, wedi talu cost yr adnewyddu yma.

“Mae hynny wedi digwydd.

“Bydd yr holl gostau’n cael eu datgan yn unol â’r rheolau.

“Mae hynny, o’m rhan i, yn ateb y cwestiwn hwnnw’n llawn.”