Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o heintio 22 o bobol â Covid-19 yn Sbaen.
Fe wnaeth y dyn beswch dros gydweithwyr a’u rhybuddio “Bydda i’n rhoi’r coronafeirws i chi i gyd”.
Daw’r cyhuddiad ar ôl i’r heddlu gynnal ymchwiliad i glwstwr o achosion yn y cwmni lle’r oedd y dyn yn gweithio ym Majorca.
Ddyddiau’n unig cyn i’r achosion ddod i’r fei, roedd gan y dyn symptomau ond roedd e’n gwrthod awgrymiadau ei gydweithwyr y dylai fynd adref a hunanynysu.
Cafodd e brawf yn ddiweddarach cyn mynd i’r gampfa a dychwelyd i’r gwaith y diwrnod canlynol.
Er bod ei benaethiaid wedi dweud wrtho am fynd adref ar ôl i’w dymheredd gyrraedd 40 gradd selsiws, fe wrthododd e.
Ar ôl hynny, cerddodd e o amgylch y gweithle, yn tynnu ei fwgwd oddi ar ei geg a pheswch dros bobol gan ddweud wrthyn nhw ei fod e am eu heintio nhw.
Cafodd e wybod wedyn ei fod e wedi profi’n bositif am Covid-19, a chafodd pump o’i gydweithwyr brofion positif hefyd, ac fe wnaethon nhw heintio nifer o berthnasau, gan gynnwys tri o blant.
Profodd tri o bobol yn bositif ar ôl bod i’r gampfa lle bu’r dyn, a chafodd eu perthnasau nhw eu heintio hefyd.
Doedd dim angen triniaeth ysbyty ar unrhyw un.
Mae’r dyn wedi cael ei ryddhau wrth aros i’w achos llys ddechrau, yn ôl adroddiadau’r wasg yn Sbaen.