Mae etholiad Albania yn cael ei gynnal heddiw (dydd Sul, Ebrill 25), gyda’r ddwy brif blaid yn ffraeo â’i gilydd.
Mae tua 3.6m o bobol yn gymwys i bleidleisio, ond dydyn nhw ddim yn cynnwys pobol sydd â Covid-19 a does dim modd i bobol fwrw eu pleidlais drwy’r post chwaith.
Bydd 140 o aelodau seneddol yn cael eu hethol o blith tua 1,800 o ymgeiswyr o 12 o bleidiau neu glymbleidiau ac ymgeiswyr annibynnol.
Ar gyfer yr etholiad hwn ac yn dilyn diwygiadau, fe fydd pleidleiswyr yn gorfod cael eu hadnabod yn electronig, mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cael ei ddatwleidyddoli’n rhannol ac mae cynllun peilot ar y gweill ar ddigideiddio’r broses bleidleisio a chyfri’n llawn.
Mae hyn mewn ymgais i geisio dileu llygredd yr etholiadau a fu yn y gorffennol.
Mae Albania’n gobeithio cael aelodaeth lawn o’r Undeb Ewropeaidd yn ddiweddarach eleni ac fe allai’r etholiad fod yn allweddol i hynny.
Mae’r prif weinidog Edi Rama am weld y wlad yn dod yn “bencampwr” twristiaeth, ynni, amaeth a phrosiectau digidol, ac mae polau’n awgrymu ei fod e a’i blaid ar y blaen ac yn debygol o ennill.
Ond mae Lulzim Basha o’r wrthblaid yn cyhuddo’r llywodraeth o lygredd ac o fod â chysylltiadau â thorcyfraith cyfundrefnol, ac mae’n addo gostwng trethi, codi cyflogau a chynnig mwy o gefnogaeth ariannol.
Bu farw ymgyrchydd yn ystod gwrthdaro rhwng y ddwy blaid yn ninas Elbasan ddydd Mercher (Ebrill 22), a hynny ar ôl cael ei saethu gan aelod o’r wrthblaid.
Mae’r Arlywydd Ilir Meta yn gwrthwynebu’r llywodraeth, er y dylai fod yn annibynnol, ac mae’n cyhuddo’r prif weinidog o geisio cipio grym iddo fe ei hun ac o fethiannau’n ymwneud ag ymateb y llywodraeth i Covid-19 a pherthnasau â’r Undeb Ewropeaidd.