Mae Llafur Cymru’n cyhuddo Plaid Cymru o bolisïau “sy’n dwyn y penawdau” ar ôl i’w harweinydd Adam Price wrthod ymrwymo i warchod y cyswllt rhwng prydau am ddim mewn ysgolion a’r Grant Amddifadedd Disgyblion.
Mae grant Llywodraeth Cymru yn cynnig arian ychwanegol i ysgolion er mwyn goresgyn rhwystrau ychwanegol mae plant o gefndiroedd difreintiedig yn eu hwynebu sy’n eu hatal nhw rhag cyflawni eu potensial.
Dywed Llafur Cymru eu bod nhw’n gwario £100m ar y grant eleni.
Wrth siarad ar raglen Sunday Politics Wales y BBC, doedd Adam Price ddim wedi dweud sut y byddai Llywodraeth Plaid Cymru ar ôl Mai 6 yn talu am bolisi prydau am ddim y blaid heb dorri’r hwb ariannol mae ysgolion yn ei gael.
Dywed Llafur Cymru ei bod yn “bryder” nad yw maniffesto Plaid Cymru’n cyfeirio at y Grant Amddifadedd Disgyblion.
‘Anghyfrifol’
“Wnaiff Adam Price ddim ymrwymo i warchod y cyswllt hanfodol rhwng prydau ysgol am ddim a’r Grant Amddifadedd Disgyblion, sy’n helpu i roi hwb i gyrhaeddiad y plant mwyaf difreintiedig yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran Llafur Cymru.
“Unwaith eto , mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi polisïau sy’n dwyn y penawdau heb feddwl am y sgil effeithiau i ysgolion a theuluoedd.
“All Plaid ddim dweud sut y byddan nhw’n talu am bethau maen nhw’n eu cynnig a fyddan nhw ddim yn agored am y pethau maen nhw’n bwriadu eu torri.
“Anghyfrifoldeb o’r mwyaf yw hyn ar adeg pan fo angen i ni ganolbwyntio ar helpu pob disgybl i ddal i fyny yn yr ysgol ar ôl anghyfleustra Covid.”
Ymateb Plaid Cymru
“Yn hytrach na chylchredeg anwireddau i geisio celu eu record sâl, dylai Llafur egluro pam eu bod nhw’n dewis amddifadu 70,000 o blant Cymru sy’n byw mewn tlodi o brydau ysgol am ddim,” meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru.
“Fel dywedodd Adam Price yn glir ar Politics Wales, byddai Plaid Cymru yn cynnal ac yn cynyddu’r pwyslais ar gyrhaeddiad addysgiadol er mwyn mynd i’r afael â’r agendor sy’n parhau i fod o dan Lafur.”