Mae tafarndai, bwytai, bariau, caffis a busnesau lletygarwch eraill yng Nghymru yn cael cynnig gwasanaeth y tu allan eto heddiw (dydd Llun, Ebrill 26), a hynny am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr.
Mae gweithgareddau yn yr awyr agored hefyd yn cael eu caniatáu o heddiw ymlaen, gan gynnwys partïon priodas, ar gyfer hyd at 30 o bobl, tra bod atyniadau awyr agored hefyd yn cael agor.
Nid yw cwsmeriaid wedi gallu prynu alcohol fel rhan o wasanaethau lletygarwch yng Nghymru ers Rhagfyr 4 pan ddaeth cyfyngiadau coronafeirws llym i rym yn y sector yn dilyn cynnydd sylweddol mewn achosion.
Cafodd tafarndai, bwytai a bariau eu gwahardd rhag gwerthu alcohol a’u gorfodi i gau am 6yh.
Pan ddechreuodd y cyfnod clo yng Nghymru ar Ragfyr 20, roedd yn rhaid i fusnesau lletygarwch gau ond roedden nhw’n cael parhau i gynnig prydau ar glyd.
Mae rhagor o gyfyngiadau yn cael eu llacio heddiw ar ôl i hyd at chwech o bobl gael cwrdd y tu allan o ddydd Sadwrn.
Fodd bynnag, nid yw’n bosib cwrdd â phobl o aelwydydd eraill y tu mewn o hyd, ar wahân i amgylchiadau arbennig.
“Eithaf prysur!”
“Rydyn ni’n eithaf prysur, ddim yn rhy ddrwg!” meddai Richard Thomas, perchennog tafarn Y Glyntwrog yn Llanrug sydd wedi ailagor heddiw.
“Rydyn ni wedi edrych ymlaen yn arw iawn, fydd hi’n neis gweld y bobol leol unwaith eto,
Dywedodd Richard Thomas wrth golwg360 heddiw ei bod hi’n “sicr” wedi bod yn “anodd bod ar gau dros y gaeaf”.
Roedd Richard Thomas yn disgwyl gweld prysurdeb dros yr wythnos nesaf, a dywedodd eu bod nhw’n “trio cael pawb mewn, ond yn amlwg llawn yw llawn.
“Rydyn ni’n trio ein gorau.”
Wrth glywed am y caniatâd i ailagor, dywedodd cwmnïau lletygarwch yr wythnos ddiwethaf eu bod nhw’n edrych ymlaen at gael “dychwelyd at ychydig bach o normalrwydd”.
Mis Mai
O Fai 3 bydd campfeydd a chanolfannau hamdden yn cael ail-agor a bydd pobl yn gallu ffurfio aelwydydd estynedig ac ymuno ag un aelwyd arall.
Fe fydd gweithgareddau y tu mewn i blant, a gweithgareddau sydd wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 15 o oedolion, fel gwersi ymarfer corff, ac ail-agor canolfannau cymunedol hefyd yn ail-ddechrau ar Fai 3, ar ôl i’r prif weinidog Mark Drakeford ddod a’r dyddiad ymlaen o Fai 17.
Dywedodd Mark Drakeford y bydd busnesau lletygarwch y tu mewn a lletyau i ymwelwyr yn cael ail-agor ar Fai 17 os yw’n parhau mewn grym ar ôl etholiadau’r Senedd ar Fai 6.
Mae’r gwrthbleidiau hefyd wedi ymrwymo i wneud yr un fath ar Fai 17 os ydyn nhw’n ennill yr etholiad.