Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi rhagor o newidiadau i’r cyfyngiadau coronafeirws heddiw (Ebrill 23).
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd rhagor o’r cyfyngiadau yn cael eu llacio yn gynt, sef ar 3 Mai yn hytrach nag 17 Mai.
Mae hyn yn cynnwys:
- Ailddechrau gweithgareddau o dan do ac o dan oruchwyliaeth ar gyfer plant
- Gweithgareddau o dan do wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 15 o oedolion (megis dosbarthiadau ymarfer corff a gwersi nofio)
- Ailagor canolfannau cymunedol
Yn ogystal, mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau’r newidiadau canlynol y bwriadwyd eu gwneud ar ddydd Llun 3 Mai:
- Campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd i gael ailagor
- Aelwydydd estynedig i gael ffurfio unwaith eto, gydag un aelwyd arall
Golyga hyn y bydd Cymru wedi symud i Lefel Rhybudd 3 yn llwyr erbyn dydd Llun 3 Mai.
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru mai Cymru “sydd â’r cyfraddau coronafeirws isaf o blith gwledydd y Deyrnas Unedig” a bod y “rhaglen frechu lwyddiannus yn parhau gyda chyfran uwch o bobl yn cael eu brechu yng Nghymru na chenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig, am y dos cyntaf a’r ail ddos”.
Mae’r datganiad hefyd yn nodi mai “dim ond os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau’n ffafriol y bydd unrhyw gamau pellach i lacio’r cyfyngiadau yn cael eu cymryd.”
Cyhoeddiad blaenorol
Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi y bydd hyd at chwech o bobl o chwe aelwyd yn cael cwrdd yn yr awyr agored, heb gynnwys plant o dan 11 mlwydd oed neu ofalwyr o’r aelwydydd hynny, a hynny o ddydd Sadwrn 24 Ebrill.
Roedd y llywodraeth hefyd wedi cadarnhau’r cyfyngiadau a fydd yn cael eu llacio ddydd Llun 26 Ebrill, sydd fel a ganlyn:
- atyniadau awyr agored, gan gynnwys pyllau nofio awyr agored, ffeiriau a pharciau thema
- lletygarwch awyr agored, gan gynnwys caffis, tafarndai a bwytai
- gweithgareddau awyr agored wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl
- priodasau yn yr awyr agored ar gyfer hyd at 30 o bobl.
“Aberth”
“Mae’r holl aberth yr ydyn ni i gyd wedi’i wneud yn parhau i wneud gwahaniaeth, meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford.
“Drwy weithio gyda’n gilydd a chadw at y rheolau, ynghyd â’n rhaglen frechu, rydyn ni’n parhau i weld gwelliant.
“Mae cyfraddau’r feirws yn dal i ostwng ac mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yn gwella.
“Diolch i’r ymdrechion hyn, gallwn gadarnhau’r cyfyngiadau a fydd yn cael eu llacio ar 26 Ebrill, ac ar gyfer dechrau mis Mai gallwn ni eto weithredu rhai o’n cynlluniau yn gynt.
“Fodd bynnag, er mwyn bod mewn sefyllfa i gymryd y camau hyn, rhaid inni i gyd barhau i weithio gyda’n gilydd i ddiogelu Cymru.”
“Fy asesiad i yw…”
Ychwanegodd: “Yn yr adolygiad tair wythnos diwethaf, cyflwynais olwg ymlaen o sut allai’r cyfyngiadau barhau i gael eu llacio yn yr wythnosau nesaf, os bydd y sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau’n sefydlog.
“Cyfrifoldeb Llywodraeth newydd Cymru fydd cadarnhau’r trefniadau hynny yn yr adolygiad tair wythnos nesaf, a gynhelir ar 13 Mai – wythnos ar ôl yr etholiad.
“Fy asesiad i yw y bydd y sector lletygarwch – bariau, tafarndai, bwytai a chaffis – yn cael agor o dan do o 17 Mai ymlaen, ynghyd â phob llety arall i dwristiaid, ac adloniant ac atyniadau o dan do.”
Anfodlonrwydd
Mae peth cwyno wedi bod am y cyhoeddiad diweddaraf gyda Phlaid Cymru’n cyhuddo’r Blaid Lafur o gymryd mantais o’u statws fel Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod etholiadol.
Yr un adeg, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig mai’r prif swyddog meddygol ddylai ymgymryd â chynhadledd coronafeirws ddydd Gwener (23 Ebrill).
Gallwch ddarllen mwy am hynny, isod.
Adam Price yn anhapus na chafodd y gwrthbleidiau wybod bod Llywodraeth Cymru am godi cyfyngiadau yn gynt na’r disgwyl
“Chwarae gwleidyddiaeth”
A chyn y cyhoeddiad diweddaraf uchod, mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi ailadrodd ei anfodlonrwydd.
“Mae diffyg gweithredu Llafur a’r ffaith ei bod wedi gwrthod cyflwyno llwybr allan o’r cyfyngiadau symud wedi achosi ansicrwydd a dryswch i lawer o deuluoedd, gweithwyr a busnesau yng Nghymru,” meddai.
“Diolch i lwyddiant ysgubol rhaglen frechu’r Deyrnas Unedig gallai gymaint mwy o fanylion wedi cael eu cyhoeddi cyn cyfnod yr etholiad – fel ar letygarwch, chwaraeon, campfeydd a gweithgareddau economaidd a chymdeithasol eraill – ond dewisodd Llafur chwarae gwleidyddiaeth.
“Mae’r cyhoeddiad adolygiad diweddaraf hwn eisoes wedi cael ei dreialu’n dda a dylai gael ei arwain gan y prif swyddog meddygol, nid y Prif Weinidog, mewn beth sy’n ymdrech amlwg i ddylanwadu ar etholiad mis Mai.”
“Ni fyddaf yn dweud dim am yr ymgyrch”
Wrth ymateb i’r feirniadaeth, dywedodd Mark Drakeford wrth y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol: “Rwy’n gwbl sicr, pe bai’r newyddion yn wael, y byddai’r gwrthbleidiau’n mynnu fy mod yno i gymryd y gynhadledd i’r wasg.
“Yn y diwedd rwy’n gyfrifol am y penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud. Rhaid i Weinidogion gymryd y cyfrifoldeb hwnnw. Gwnaf hynny yfory fel Prif Weinidog. Ni fydd gwleidyddiaeth ynddo.
“Ni fyddaf yn dweud dim am yr ymgyrch na safbwynt Llafur ynddynt. Byddaf yn adrodd ar sefyllfa iechyd y cyhoedd, y cyngor yr ydym wedi’i gael a byddaf yn dweud wrth bobl, fel yr wyf wedi’i wneud bob tair wythnos, y pethau rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu edrych ymlaen atynt.”
“Ymdrech arbennig pobl Cymru”
O ran y diweddariad diweddaraf i’r cyfyngiadau, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: “Mae ymdrech arbennig pobl Cymru ar y cyd gyda gwaith arwrol ein staff iechyd gwladol i gyflwyno’r brechlyn wedi caniatáu llacio cyfyngiadau.
“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cynllunio ar gyfer ailagor lletygarwch dan do, llety i dwristiaid, sinemâu a lleoliadau adloniant eraill ar Fai 17. Er mwyn rhoi busnesau ar y sylfaen orau bosibl, byddai ein camau cyntaf mewn llywodraeth yn cynnwys darparu grantiau cychwyn ar gyfer busnesau lletygarwch.
“Byddai cymorth ariannol ychwanegol hefyd yn cael ei ôl-ddyddio i Ebrill 26 ar gyfer y busnesau hynny na allant fasnachu’n hyfyw ar sail agor yn yr awyr agored yn unig.