Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi addo blaenoriaethu cyllid iechyd meddwl yn ogystal â sicrhau bod yr holl weithwyr gofal yn cael y Cyflog Byw Go Iawn.

Byddai cynllun adfer gofalu’r blaid yn eu maniffesto yn gweld cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn cael ei godi i 13% o holl wariant y Gwasanaeth Iechyd Gwladol erbyn 2028.

Mae’r blaid yn dweud eu bod am weld cydraddoldeb yn cael ei gyflawni rhwng iechyd meddwl a chorfforol.

Byddai’r blaid hefyd yn cydraddoli’r holl amodau cyflog ar draws y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau bod gweithwyr gofal yn cael y Cyflog Byw Go Iawn.

Dywedodd Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds: “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos bod angen adferiad gofalu arnom i Gymru.

“Mae arnom ddyled enfawr i’n gweithluoedd iechyd a gofal, a’r nifer fawr o ofalwyr di-dâl yn ein cymunedau.

“Mae Covid-19 wedi dangos pa mor hanfodol yw ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond hefyd yr heriau y mae’n eu hwynebu.

“Byddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl ac yng ngofalwyr ein cenedl.”

“Cymru fwy gofalgar”

Ychwanegodd y llefarydd iechyd Jo Watkins: “Wrth i ni adael effeithiau gwaethaf y pandemig ar ein hôl, mae gennym gyfle i adeiladu Cymru fwy gofalgar sy’n rhoi pobl yn gyntaf.

“Bydd y cynlluniau uchelgeisiol hyn yn gweld cynnydd cyson yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl Cymru flwyddyn ar ôl blwyddyn.

“Oni bai ein bod yn gweithredu nawr ac yn cynyddu cyllid a hyfforddiant bydd yr argyfwng iechyd meddwl sy’n ein hwynebu heddiw gryn dipyn yn waeth yn y blynyddoedd i ddod.”