Fe fydd teithwyr sy’n hedfan i’r Deyrnas Unedig o India bellach yn gorfod aros mewn cwarantin mewn gwesty wrth i’r wlad gael ei hychwanegu at y gwledydd sydd ar restr goch Llywodraeth y DU ar gyfer teithwyr.

O 4yb ddydd Gwener (Ebrill 23) fe fydd pobl sy’n dychwelyd o India yn gorfod bod mewn cwarantin mewn gwesty am 10 diwrnod, tra bod unrhyw un sydd ddim yn byw yn y Deyrnas Unedig neu Iwerddon, neu’n ddinesydd o Brydain, yn cael eu gwahardd rhag dod i’r wlad os ydyn nhw wedi bod yn India yn ystod y 10 diwrnod blaenorol.

Roedd pedwar cwmni hedfan wedi gofyn am wyth o hediadau ychwanegol i Heathrow cyn i’r cyfyngiadau ddod i rym am 4yb ond mae’n debyg bod y maes awyr wedi gwrthod cais y cwmnïau awyrennau er mwyn sicrhau nad oes pwysau ychwanegol ar y ffin.

Amrywiolyn newydd

Daw’r cyfyngiadau diweddaraf yn sgil pryder cynyddol am nifer yr achosion o’r coronafeirws yn India ac amrywiolyn newydd o’r firws yno.

Daeth yr amrywiolyn i amlygrwydd yn rhyngwladol ym mis Hydref a’i adnabod yn y DU ar Chwefror 22.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr ddydd Iau bod 55 o achosion o’r amrywiolyn o India wedi’u darganfod yn y DU yn yr wythnos hyd at Ebrill 14.

Bu’n rhaid i’r Prif Weinidog Boris Johnson ganslo ymweliad a India ddydd Llun wrth i’r wlad geisio mynd i’r afael a chynnydd brawychus mewn achosion.

Fe fu 314,000 o achosion newydd o’r coronafeirws yn India, a phrinder gwlâu ac ocsigen yn ychwanegu at yr argyfwng.

Mae 15.9 miliwn o achosion o’r firws wedi’u cofnodi yn India ers dechrau’r pandemig.

Dyma’r ail nifer fwyaf yn y byd, ar ôl yr Unol Daleithiau.

Roedd nifer y marwolaethau yn India wedi cynnydd 2,104 o fewn y 24 awr ddiwethaf gan ddod a chyfanswm y marwolaethau i 184,657, meddai’r gweinidog iechyd.