Mae disgwyl i’r Llys Apêl wyrdroi euogfarnau dwsinau o gyn-is-bostfeistri a gafodd eu dyfarnu’n euog o ddwyn, twyll, a chadw cyfrifon ffug oherwydd diffygion yn system gyfrifon Swyddfa’r Post.

Cafodd bywydau’r is-bostfeistri, rhai o Gymru yn eu plith, eu “difetha’n llwyr” wedi iddyn nhw golli’u swyddi a’u cartrefi, ac i’w priodasau chwalu, ar ôl cael eu herlyn gan Swyddfa’r Post, meddai’r erlyniad.

Clywodd y Llys Apêl fis diwethaf fod Swyddfa’r Post yn gwybod fod gan y system TG “ddiffygion” ers y dyddiau cyntaf iddyn nhw ddechrau ei defnyddio.

Mae rhai o’r is-bostfeistri wedi marw ers hynny, ac eraill wedi “cymryd eu bywydau eu hunain”, clywodd y Llys Apêl.

Yr apeliadau

Mewn gwrandawiad yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol yn Llundain heddiw (Ebrill 23) mae disgwyl i’r dyfarniadau yn erbyn 39 o’r cyn is-bostfeistri gael eu dileu.

Mae Swyddfa’r Post wedi dweud y dylid caniatáu apeliadau i 39 o’r 42 sy’n apelio ar y sail “na chawson nhw, neu nid oedd yn bosib iddyn nhw gael, achos teg”.

Ond mae wedi gwrthwynebu 35 o’r 39 achos hynny oherwydd eu bod nhw’n apelio ar sail arall, sef bod yr erlyniadau’n “sarhad ar gyfiawnder”.

Nid yw Swyddfa’r Post wedi gwrthwynebu achos pedwar o’r apelwyr ar y naill sail, tra bod tri ohonynt yn cael eu gwrthwynebu’n llawn.

Petai’r apelwyr yn cael eu dyfarnu’n ddieuog, ni fydd Swyddfa’r Post yn gofyn am achos arall yn eu herbyn.

Mae disgwyl y bydd y barnwyr yn dyfarnu’r 39 yn ddieuog heddiw, ar y sail nad oedd yr achos cyntaf yn un teg.

Bydd y Llys Apêl hefyd yn dyfarnu a yw’r 35 wedi ennill eu hapeliadau fod eu herlyniad yn sarhad ar gyfiawnder, yn ogystal â dyfarnu ar y tair apêl sy’n cael eu gwrthwynebu’n llawn.

“Sarhad hiraf a helaethaf”

Fis Mawrth, dywedodd Cwnsler y Goron, a oedd yn cynrychioli pump o’r apelwyr, mai methiant Swyddfa’r Post i gynnal ymchwiliad a chyfaddef bod problemau difrifol gyda system gyfrifon Horizon yw’r “sarhad hiraf a helaethaf ar y system gyfiawnder o fewn cof”.

Mae Swyddfa’r Post “wedi troi eu hunain i frand mwyaf annibynadwy’r wlad” drwy geisio “amddiffyn” Horizon rhag pryderon ynghylch eu dibynadwyedd.

Mewn achos llys yn erbyn Swyddfa’r Post llynedd, fe wnaeth yr Uchel Lys ddod i’r casgliad bod system Horizon yn cynnwys nifer o ddiffygion.

O ganlyniad i hynny, cafodd dyfarniadau’r 42 cyn-isbostfeistr eu cyfeirio at y Llys Apêl.

“Rydyn ni’n ymddiheuro’n ddiffuant i’r postfeistri sydd wedi’u heffeithio gan ein methiannau hanesyddol,” meddai llefarydd ar ran Swyddfa’r Post ddoe.

“Trwy gydol y broses apeliadau rydyn ni wedi cefnogi’r ymgyrch i ddileu mwyafrif llethol y dyfarniadau hyn, a bydd y dyfarniad yn garreg filltir er mwyn cydnabod y gorffennol.”

Swyddfa’r Post yn ymddiheuro i bostfeistri gafodd eu carcharu ar gam

Cydnabod diffygion mewn system technoleg gwybodaeth