Mae Mark Drakeford wedi gwadu ei fod wedi penderfynu llacio rhai o’r cyfyngiadau clo yng Nghymru yn gynt na’r disgwyl er mwyn dylanwadu ar etholiadau’r Senedd ar Fai 6.

Wrth ymateb i feirniadaeth gan y gwrthbleidiau, dywedodd y Prif Weinidog bod y newidiadau oherwydd bod y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn gwella.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd rhagor o’r cyfyngiadau yn cael eu llacio yn gynt, sef ar Fai 3 yn hytrach na Mai 17, gan gynnwys ailddechrau gweithgareddau dan do ac o dan oruchwyliaeth ar gyfer plant; gweithgareddau dan do wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 15 o oedolion, fel dosbarthiadau ymarfer corff a gwersi nofio, ac ailagor canolfannau cymunedol.

Mae’n golygu y bydd Cymru yn symud i Lefel Rhybudd 3 erbyn Mai 3 – dridiau cyn yr etholiad. Ond mae Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Mark Drakeford o ddefnyddio ei rym, yn ogystal â chynadleddau newyddion Llywodraeth Cymru, i ddylanwadu ar yr etholiad.

“Y firws ymhell o fod drosodd” 

Dywedodd Mark Drakeford wrth Sky News ddydd Gwener: “Taswn i’n cyhoeddi newyddion anodd heddiw, mi fyddai’r gwrthbleidiau’n mynnu fy mod yno i wneud y cyhoeddiad.

“Dw i’n gwneud y cyhoeddiad bod tair wythnos. Rydw i wedi gorfod gwneud ar rai dyddiau anodd iawn pan nad yw’r newyddion wedi bod yn dda. Heddiw, rwy’n gorfod dychwelyd i’r podiwm, fel yr ydw i wedi gwneud bob tair wythnos, i adael i bobl yng Nghymru wybod yr asesiad o’r sefyllfa ddiweddaraf am y firws yng Nghymru, y penderfyniadau ry’n ni wedi gallu gwneud ar eu rhan, ein hasesiad ni o beth all ddigwydd yn y dyfodol, ac i atgoffa pobl nad yw’r firws ymhell o fod drosodd.”

Wrth siarad â BBC Radio 5 Live dywedodd y Prif Weinidog bod gan Gymru bellach y nifer lleiaf o achosion o Covid-19 yn y Deyrnas Unedig a bod nifer y brechiadau yn uwch nag unrhyw le arall, sydd wedi rhoi’r cyfle i lacio rhai cyfyngiadau.

Ond mae wedi rhybuddio’r cyhoedd i barhau’n wyliadwrus wrth i ragor o gyfyngiadau gael eu llacio yn yr wythnosau nesaf.