Mae trydydd dyn wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â llofruddiaeth Tomasz Waga yng Nghaerdydd.

Bydd Mario Qato, 25, o Tottenham yn Llundain, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd heddiw (Ebrill 23) ar gyhuddiad o lofruddiaeth.

Mae dau ddyn arall wedi cael eu cyhuddo’n barod mewn cysylltiad â’r llofruddiaeth, ac maen nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa nes yr achos llys.

Cafodd corff Tomasz Waga, oedd yn 23 oed, ei ddarganfod ar Ffordd Westville, Penylan, yn hwyr nos Iau, Ionawr 28.

Mae lle i gredu ei fod wedi teithio o Dagenham, Llundain, i Ffordd Casnewydd, Caerdydd lle bu ffrwgwd awr cyn dod o hyd i’w gorff.

Bu farw o ganlyniad i ymosodiad parhaus.

Daeth yr heddlu o hyd i ffatri canabis yn yr adeilad, ac maent yn credu bod ei farwolaeth yn gysylltiedig â throseddu cyfundrefnol.

Llofruddiaeth Caerdydd: £5,000 am wybodaeth am dri dyn

Darganfuwyd corff Tomasz Waga ar Ffordd Westville, Penylan, yn hwyr nos Iau, Ionawr 28
Logo Heddlu'r De yn siap helmed

Enwi dyn y cafwyd hyd i’w gorff yng Nghaerdydd wrth i’r heddlu ymchwilio i’w lofruddiaeth

Cafwyd hyd i gorff Tomasz Waga, 23 oed, yn ardal Penylan nos Iau (Ionawr 28)