Dylai brechlynnau allu rheoli’r pandemig, meddai arbenigwyr sydd wedi cyhoeddi data sy’n dangos fod brechiadau yn lleihau achosion o Covid-19 yng ngwledydd Prydain, ac yn debygol o leihau trosglwyddiadau.
Mae un dos o frechlynnau Pfizer/BioNTech neu AstraZeneca yn arwain at gwymp o ddau draean mewn achosion Covid-19, a chwymp o 70% mewn achosion symptomatig, yn ôl y data.
Ar ôl dau ddos o Pfizer, roedd gostyngiad o 70% mewn achosion, a chwymp o 90% mewn achosion symptomatig, a phobol gydag achosion symptomatig sydd fwyaf tebygol o basio’r haint ymlaen i bobol eraill.
Mae arbenigwyr yn parhau i gasglu data ynghylch effaith cael dau ddos o AstraZeneca, ond mae eu canfyddiadau yn dangos fod y ddau frechlyn yn gweithio a’u bod nhw’n effeithiol yn y byd go-iawn.
“Synnu ar yr ochr orau”
Mae un o’r astudiaethau newydd yn seiliedig ar ddata gan Brifysgol Rhydychen a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac fe wnaeth dros 373,000 o oedolion gymryd rhan yn yr ymchwil.
Dywedodd y prif ymchwilydd fod yr astudiaeth yn awgrymu y gallai brechlynnau leihau trosglwyddiadau, a’u bod nhw’n effeithiol yn erbyn amrywiolyn Caint.
“Nid oeddwn yn disgwyl i’r astudiaeth ddangos fod y buddion yn fwy i bobol gyda llwyth feirysol uchel a phobol gyda symptomau, y bobol sydd fwyaf tebygol o basio’r haint yn ei flaen mae’n debyg… cefais fy synnu ar yr ochr orau,” meddai’r Athro Sarah Walker.
Dywed ei bod hi’n “bwyllog gadarnhaol” y gallai’r pandemig gael ei reoli gan frechlynnau yn y tymor hir.
Ac mae yn dadlau nad yw “cyfnodau clo yn ddatrysiad ymarferol” yn yr hirdymor, a’i fod yn “amlwg” mai brechlynnau “fydd yr unig ffordd sy’n rhoi cyfle i ni reoli hyn yn yr hirdymor”.
Dangosodd y data bod cwymp o 57% ymysg achosion asymptomatig ar ôl un dos o’r brechlyn.
Dywedodd uwch-ymchwilydd ym Mhrifysgol Rhydychen fod arbenigwyr yn “weddol hyderus” fod y brechlyn yn lleihau’r risg o basio’r feirws yn ei flaen.
“Er hynny, mae’r ffaith i ni weld lleihad llai mewn achosion asymptomatig nag achosion symptomatig yn amlygu’r posib y gall pobol sydd wedi’u brechu gael Covid-19 eto, ac y gallai pobol sydd wedi’u brechu barhau i basio’r haint yn ei flaen i ryw raddau, hyd yn oed os ydi hynny ar gyfradd is,” meddai Dr Koen Pouwels.
“Mae hyn yn pwysleisio’r angen i bawb barhau i ddilyn canllawiau er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo’r feirws, er enghraifft drwy ymbellhau cymdeithasol a masgiau.”
Amlygu pwysigrwydd ail ddos
Dangosodd astudiaeth arall gan yr un tîm fod un dos o frechlyn AstraZeneca neu Pfizer yn achosi “ymateb cryf” wrth greu gwrthgyrff yn 95% o’r bobol gafodd y brechlyn.
Yn ogystal, dangosodd y data fod y brechlynnau llawn mor effeithiol mewn pobol dros 75 oed, neu gyda chyflyrau iechyd, â mewn pobol heb gyflyrau iechyd, neu sydd o dan 75 oed.
Tra bod pawb wedi dangos rhyw fath o ymateb i’r brechlyn, roedd gan lai na 75% ohonynt ymateb bychan iddo.
“Mewn oedolion hŷn, mae dau ddos mor effeithiol wrth greu gwrthgyrff i’r feirws sy’n achosi Covid-19 â bod wedi cael eich heintio yn y gorffennol – mewn unigolion iau mae un dos yn creu’r un lefel o ymateb,” meddai’r Athro David Eyre, o Brifysgol Rhydychen.
“Mae ein canfyddiadau yn amlygu’r pwysigrwydd fod unigolion yn cael ail ddos o’r brechlyn er mwyn cael lefel uwch o warchodaeth.”