Mae dyn 33 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o wneud galwad ffug i Ysbyty Maelor Wrecsam.

Treuliodd yr heddlu oriau yn chwilio am becyn amheus yn yr ysbyty ddoe (dydd Iau, Ebrill 22) yn sgil yr alwad.

Roedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi dweud wrth bobol i beidio â mynychu eu hapwyntiadau, tra bod cleifion wedi gorfod gadael rhai ardaloedd o’r ysbyty.

“Rydym yn gofyn i bobl beidio â mynychu eu hapwyntiadau fel y cynlluniwyd heddiw a hefyd i osgoi’r safle,” meddai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mewn neges ddoe.

“Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a byddwn yn rhoi diweddariad.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru bellach wedi cadarnhau bod dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Andrew Gibson: “Gallaf gadarnhau bod dyn 33 oed, lleol i ardal Wrecsam wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

“Gan mai ymchwiliad byw yw hwn, ni allaf wneud sylw pellach ar hyn o bryd, ond hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i roi sicrwydd nad oes unrhyw bryderon ehangach am ddiogelwch y cyhoedd.”

Cafodd ei sylwadau eu crynhoi mewn trydariad gan yr heddlu.

Galwad ffug wedi achosi hafoc yn Ysbyty Maelor Wrecsam

“Ein blaenoriaeth gydol y digwyddiad y prynhawn yma oedd sicrhau fod pobl yn cael eu cadw’n ddiogel”