Mae bellach wedi dod i’r amlwg mai galwad ffug oedd yn gyfrifol am achosi hafoc yn Ysbyty Maelor Wrecsam heddiw (dydd Iau, Ebrill 22).

Roedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi dweud wrth bobol beidio â mynychu eu hapwyntiadau, tra bod cleifion wedi gorfod gadael rhai ardaloedd o’r ysbyty.

“Rydym yn gofyn i bobl beidio â mynychu eu hapwyntiadau fel y cynlluniwyd heddiw (22 Ebrill 2021) a hefyd i osgoi’r safle,” meddai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar Twitter ganol prynhawn.

“Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a byddwn yn rhoi diweddariad.”

Ychwanegodd y bwrdd iechyd: “Nid yw’r ysbyty wedi cael ei wagio, ond cyfyngir ar symudiadau pobl i mewn i’r safle ac allan wrth i’r ymchwiliad barhau.

“Hoffem atgoffa pobl i beidio â mynd i’r ysbyty ar hyn o bryd.”

Mae’n debyg bod yr heddlu wedi cyrraedd yr ysbyty am 1:15 o’r gloch, tra bod cleifion wedi gorfod gadael rhai ardaloedd o’r ysbyty.

Cafodd dau ben y ffordd sy’n arwain i’r ysbyty eu rhwystro gan swyddogion yr heddlu a daeth rhybudd i “osgoi’r ardal nes clywir yn wahanol.”

“Galwad ffug”

Ond mae Heddlu Gogledd bellach wedi cadarnhau mai galwad ffug oedd wedi achosi’r digwyddiad, gan ddiolch i’r staff, cleifion a’r cyhoedd am eu “cydweithrediad”.

“Hoffwn ddiolch i staff, cleifion a’r cyhoedd am eu cydweithrediad yn dilyn beth sy’n ymddangos ei fod yn alwad ffug i Ysbyty Maelor Wrecsam,” meddai Prif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Mark Williams.

“Ein blaenoriaeth gydol y digwyddiad y prynhawn yma oedd sicrhau fod pobl yn cael eu cadw’n ddiogel.”