Mark Drakeford yw arweinydd mwyaf poblogaidd y Deyrnas Unedig ymhlith pobol Cymru, yn ôl pôl piniwn.
Mae pobol Cymru hefyd yn credu ei fod yn gwneud gwaith gwell na Boris Johnson a Nicola Sturgeon.
Daw hyn yn dilyn ymchwil gan YouGov/ITV Cymru/Prifysgol Caerdydd, a ofynnodd gyfres o gwestiynau i 1,142 o oedolion yng Nghymru.
Pan ofynnwyd pa mor dda roedd Mark Drakeford yn ei wneud, dywedodd 57% “yn dda iawn” gyda 49% yn dweud bod Nicola Sturgeon yn gwneud “yn dda iawn” a dim ond 39% i Boris Johnson.
Gofynnodd cwestiwn arall a oedd gan bobol farn fwy cadarnhaol neu negyddol am y tri arweinydd ers dechrau’r pandemig.
Dywedodd 17% fod eu teimladau cadarnhaol tuag at Boris Johnson wedi cynyddu ers dechrau’r pandemig, tra bod Nicola Sturgeon ar 22%, a Mark Drakeford ar 33%.
Mark Drakeford, hefyd, oedd â’r sgôr cyfartalog uchaf allan o arweinwyr tair plaid fwyaf Cymru a Phrif Weinidog Prydain, Boris Johnson, pan ofynnwyd i bobol raddio, o 0 i 10, p’un a oeddent yn eu hoffi neu’n eu casáu.
Roedd gan Mark Drakeford sgôr gyfartalog o 5, o’i gymharu â 4.5 ar gyfer Adam Price, a 3.5 i Andrew RT Davies. Sgôr Boris Johnson oedd 4.2.
Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru
Yn dda iawn: 57%
Yn hollol wael: 34%
Nicola Sturgeon yn Brif Weinidog yr Alban
Yn dda iawn: 49%
Yn hollol wael: 33%
Boris Johnson fel Prif Weinidog
Yn dda iawn: 39%
Yn hollol wael: 54%