Mae ymgyrchydd Plaid Cymru wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol ar ddynes ar ei stepen drws yng Nghaergybi.

Digwyddodd yr ymosodiad honedig ar ôl i ddynes agor ei drws nos Lun (Ebrill 19) wrth i’r ymgyrchydd drïo postio pamffled drwy’r blwch post.

Dywedodd y ddynes, sy’n ei thridegau, fod y gwirfoddolwr yn or-gyfeillgar â hi, ac yn gofyn a oedd hi “eisiau mynd am ddiod”.

Pan wrthododd hi, fe wnaeth y dyn drïo ei chofleidio a’i chusanu, meddai’r ddynes.

“Dipyn o sioc”

“Roedd yn gafael ynof i mor dynn fel bod fy ysgyfaint wedi dechrau brifo, ac yna fe wnaeth e ddechrau cusanu fy moch,” meddai’r ddynes wrth y Daily Post.

“Fe wnaeth e drïo fy nghusanu i ar fy ngwefus, fe wnes i ei wthio i ffwrdd, ac mi adawodd. Roedd yn sioc felly mae’n ychydig o blur, ond fe wnaeth e adael ar ôl hynny.”

Fe wnaeth y ddynes, sy’n byw gyda’i mab ifanc, ffonio ei mam ar ôl y digwyddiad, ac yna fe wnaeth y fam ffonio’r heddlu.

Mae’r ddynes yn dweud bod y digwyddiad wedi ei hysgwyd, a’i gwneud hi’n wyliadwrus wrth ateb y drws.

“Mae’n dipyn o sioc pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd,” meddai’r ddynes, nad oedd am gael ei henwi.

“Ar y pryd roeddwn i wedi dychryn.

“Aeth fy ngorbryder drwy’r to, ni allaf ateb y drws i neb ddim mwy, ac nid ydw i wedi cysgu llawer ers y digwyddiad.

“Rydyn ni yng nghanol pandemig, felly roedd rhaid dod dros y ffaith y gallai fod wedi arwain ata i a’m mab yn dal Covid hefyd.”

Atal aelodaeth yr unigolyn

Mae llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol, ac wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i’r ymchwiliad barhau.

“Rydyn ni’n ymwybodol o ddigwyddiad honedig yn ymwneud â gwirfoddolwr, ac rydyn ni wedi gweithredu ar unwaith i atal aelodaeth yr unigolyn,” meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru.

“Mae Plaid Cymru yn ymdrin â’r mater gyda’r difrifoldeb pennaf, ac wedi bod mewn cysylltiad â’r teulu. Byddai’n anaddas gwneud rhagor o sylwadau wrth i’r ymchwiliad fynd yn ei flaen.”