Mae gwraig dyn sydd â Chlefyd Motor Niwron wedi dweud wrth golwg360 bod cleifion y gorllewin yn cael eu “trin yn waeth na chleifion gweddill Cymru,” a bod “cleifion Cymru’n gyffredinol yn cael eu trin yn waeth” nag yn Lloegr a’r Alban.
Cafodd Bob Gledhill, sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, wybod fod ganddo’r clefyd ym mis Medi llynedd, yn 52 oed.
Ar ôl derbyn y diagnosis, mae’r teulu’n dweud na chawsom nhw unrhyw gysylltiad â’r adran niwrolegol yn Ysbyty Glangwili rhwng mis Medi a mis Rhagfyr, er eu bod nhw wedi ceisio cysylltu dro ar ôl tro.
Mae Lowri Davies yn dweud bod y cyfarfod cyntaf gawson nhw gyda Thîm Motor Niwron gorllewin a de Cymru wedi canolbwyntio ar ofal diwedd oes, ac elfennau negyddol.
Dywedodd Lowri Davies wrth golwg360 eu bod nhw wedi methu â manteisio ar ddarpariaeth niwrolegol fwy arbenigol yn Rhydychen a Chaeredin, gan fod yna ddarpariaeth yng ngorllewin a de Cymru.
Roedd Bob, a’r teulu, yn awyddus i ganolbwyntio ar bositifrwydd a chymryd rhan mewn treialon clinigol, ond daeth i’r amlwg nad oes treialon o’r fath yng Nghymru.
“Mae’n sefyllfa hollol annheg”, meddai ei wraig, sy’n filfeddyg.
Y diagnosis yn “sioc fawr”
“I dorri stori hir yn fyr, fe wnaeth Bob sylwi bod e’n colli nerth yn ei fraich chwith tua mis Medi diwethaf, ac fe aethom ni i edrych arno a sylwi fod e wedi colli cryn dipyn o gyhyr yn y fraich chwith yn gyffredinol,” eglurodd Lowri Davies wrth golwg360.
“Fe wnes i ofyn am apwyntiad niwrolegol, ac roedd y meddyg teulu yn grêt.
“Fe wnaeth e anfon e at niwrolegydd, ond yn anffodus mae’r adran niwrolegol yn Glangwili braidd yn simsan.
Ar ôl llwyddo i gael apwyntiad gyda’r adran niwrolegol yng Nglangwili, dywedodd Lowri Davies nad oedd “lot o siâp â dweud y gwir”.
“Roedd [y meddyg] cadw gofyn i mi ‘what do you think?’ Wedes i fod eisiau rhedeg y profion hyn, ac yng Nghaerfyrddin mae cysylltiad teuluol sy’n niwrolegydd ac fe wnaeth e drefnu.
“Aethom ni lawr i weld e, a dywedodd e ei fod yn credu mai motor niwron oedd e.
“Roedd hynny’n sioc fawr, doeddwn i heb feddwl.”
Cafodd y profion eu gwneud yn Ysbyty Glangwili, a daeth y canlyniadau’n ôl gyda’r diagnosis. Mae Clefyd Motor Niwron yn disgrifio grŵp o glefydau sy’n effeithio ar y system nerfol yn yr ymennydd a’r meingefn.
Rhain sy’n trosglwyddo negeseuon i’r cyhyrau, sy’n trefnu a rheoli ein symudiadau bob dydd. Pan fo’r nerfau sy’n gwneud y trosglwyddiad yn dirywio mae’r cyhyrau yn dechrau gwanhau, ac yna’n dod i ben.
“Ofnadwy” fod popeth mor negyddol
Ar ôl derbyn y diagnosis “ni chawsom ni ddim cysylltiad,” meddai Lowri Davies.
“Fe wnaethom ni gysylltu dro ar ôl tro, ar ôl tro, gyda’r adran niwrolegol yng Nglangwili, ond yr unig beth oeddem ni’n ei gael oedd fod y niwrolegydd ar ei wyliau, ysgrifenyddes y niwrolegydd ar ei gwyliau.”
“Chawsom ni ddim adborth gan yr adran niwrolegol o gwbl o fis Medi tan fis Rhagfyr, er bod e wedi cael diagnosis fyddai’n rhoi terfyn cynnar ar ei oes e.
“Cawsom ni ei weld e ym mis Rhagfyr yn y diwedd.
“Ond cyn hynny, cawsom ni gysylltiad gyda Thîm Motor Niwron gorllewin a de Cymru, ond y drafferth yw nad oes ganddyn nhw niwrolegydd arbenigol ar hyn o bryd – mae hi wedi bod bant yn sâl ers dros flwyddyn,” esboniodd.
“Y cyfarfod cyntaf gawsom ni, roedd yna ddeuddeg o bobol yno yn edrych arnom ni. Roedd popeth wedi cael ei drefnu ar gyfer diwedd oes.
“Gallwch chi ddychmygu, pan rydych chi newydd gael y diagnosis, fod cael popeth mor negyddol yn ofnadwy â dweud y gwir.
“Yr unig beth oeddwn i moyn gwybod, oedd a oes yna dreialon clinigol yn mynd ymlaen yng Nghymru, oherwydd mae’n bwysig iawn i Bob, ac i ni fel teulu, ei fod yn cael gwneud rhywbeth positif, a chael unrhyw wybodaeth am beth y gallwn ni ei wneud o ran deiet, physiotherapi, ac ati.
“Doedd dim o gwbl i gael,” pwysleisiodd.
“Mewn limbo”
“Mae yna adran arbenigol yn Rhydychen, ac fe wnes i e-bostio’r athro sy’n rhedeg hwnnw, ac i fod yn deg fe ddaeth yn ôl ata i o fewn pum munud,” ychwanegodd Lowri Davies.
“Fe wnaeth e drefnu cyfarfod Zoom gyda fe, a Bob, a fi. Roedd e’n ffantastig. D’yw e ddim yn gweld pobol yn breifat, ond fe wnaeth e hyn ar ei liwt ei hunan.
“Cawsom ni dipyn o wybodaeth a chefnogaeth ganddo fe.
“Fe wnaethom ni ofyn a allwn ni fynd lawr i’r uned yn Rhydychen, ond fe wedon nhw na achos bod yna uned yn ne a gorllewin Cymru.
“Er nad oes darpariaeth iawn yn ne a gorllewin Cymru, roedd y niwrolegydd yng Nglangwili yn negyddol iawn ac fe wnaeth e droi rownd a dweud ‘it’s a lot of paperwork to get you referred Oxford, I can tell you now it won’t happen.’
“Se’n i’n byw yng ngogledd Cymru, achos nad oes gwasanaeth i’w chael yno, byddem ni wedi cael mynd yn awtomatig i adran arbenigol yn Lloegr.
“Se’n i’n byw yn ne ddwyrain Cymru, er bod niwrolegydd arbenigol ar gyfer Motor Niwron yng Nghaerdydd, se hi wedi gallu anfon ni i Rydychen hefyd gan nad oes darpariaeth.
“Gan fod yna ddarpariaeth yn y gorllewin, mae e’n blocio chi rhag mynd i adran fwy arbenigol.
“Ar hyn o bryd, rydyn ni mewn limbo.”
“Sefyllfa hollol annheg”
Esboniodd Lowri Davies fod yna dreialon yn Lloegr a’r Alban lle mae pobol yn cael cyffuriau sydd wedi’u hail-bwrpasu.
“Efallai bod cyffur gyda nhw ar gyfer rhyw glefyd arall, ac maen nhw’n ei drio fo ar gyfer Motor Niwron.
“Nid oes darpariaeth ar gyfer hynny yng Nghymru o gwbl.
“Mae yna ddarpariaeth yn yr Alban, mae yna ddarpariaeth yn Lloegr, ond does yna ddim yng Nghymru.
“So mae’n sefyllfa hollol annheg, mae cleifion Cymru’n gyffredinol yn cael trin yn waeth. Ond mae cleifion y gorllewin yn cael eu trin yn waeth na chleifion gweddill Cymru.”
Pwysig cael agwedd bositif
“Rydyn ni wedi cael lot o gymorth gan y Doddie Weir Foundation, maen nhw’n dweud yr un peth – fod popeth mor negyddol, bod dim byd positif,” meddai Lowri Davies wrth sôn am yr elusen sydd wedi’i henwi ar ôl cyn-chwaraewr rygbi’r Alban, sy’n dioddef o Glefyd Motor Niwron.
“Pan rydych chi yng nghyfnod cyntaf y clefyd, mae agwedd bositif a thrïo gwneud popeth y gallwch chi o ddiwrnod i ddiwrnod yn bwysig iawn i gadw’r corff i fynd am gyn hired â phosib.
“Ond, yr agwedd roeddem ni’n ei chael oedd ‘go away, and die in a corner’.
“Dw i wedi bod mewn cyswllt â’r Aelod Seneddol. Mae Adam Price wedi bod yn trïo trefnu cyfarfod gyda chyfarwyddwr iechyd Hywel Dda, ond dydi e heb gael lot o lwyddiant hyd yn hyn, er mwyn codi’r ffaith fod y sefyllfa’n hollol warthus yng ngorllewin Cymru.”
Her
Mae’r teulu’n cynnal ymgyrch fawr i geisio codi arian i ymchwilio i’r clefyd, a fis Gorffennaf bydd y teulu, ffrindiau, a chydweithwyr yn ymgymryd â her i ddringo tri chopa uchaf Cymru, a seiclo o un mynydd i’r llall.
Bydd yr holl arian yn mynd tuag at My Name’s Doddie Foundation, ac Hospis Skanda Vale yn Llandysul, a bydd Bob hefyd yn cymryd rhan yn yr her.
“Rydym ni hefyd yn ceisio codi arian, ond codi arian yn bwrpasol ar gyfer ymchwil clinigol sydd ddim yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd, codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr a’r angen am roi mwy o adnoddau gan y Llywodraeth yn gyffredinol, a danfon positifrwydd,” ychwanegodd Lowri Davies wrth drafod yr her.
“Mae’n gyflwr ofnadwy, ond mae Bob yn gallu cerdded mynyddoedd a theithio cymaint ag y gallith e.
“Mae beic trydan gydag e, ond mae e allan ar ei feic mynydd, sydd ddim yn feic trydan.
“Yr holl bethau yna rydyn ni’n trio’u gwneud, a gobeithio ein bod ni’n gallu helpu rhywun arall yn y dyfodol.”
Ymateb Bwrdd Iechyd Hywel Dda
“Er na allwn wneud sylwadau ar achosion cleifion unigol, rydym yn cymryd pob cwyn o ddifrif ac rydym mewn cysylltiad uniongyrchol â Mr Gledhill ynghylch ei bryderon,” meddai Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.