Nid Covid-19 wnaeth achosi’r mwyaf o farwolaethau yng Nghymru yn ystod mis Mawrth, dangosa ystadegau newydd, a hynny am y tro cyntaf ers mis Hydref.

Mae ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod Covid-19 wedi arwain at 6.3% o’r marwolaethau yng Nghymru ym mis Mawrth.

Fe wnaeth isgemia’r galon achosi’r mwyaf o farwolaethau yng Nghymru, sef 11.8% o’r marwolaethau, tra bod Covid-19 yn drydedd ar y rhestr.

Mae ystadegau dros dro’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 2,984 o farwolaethau wedi bod yng Nghymru yn ystod mis Mawrth, 150 yn llai na mis Mawrth 2020, ac 87 yn llai na’r cyfartaledd ar gyfer y mis dros bum mlynedd.

Cafodd 189 o’r marwolaethau eu hachosi gan Covid-19, cwymp o 73% ers mis Chwefror pan wnaeth 711 o bobol farw yn sgil y coronafeirws.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod 9,666 o farwolaethau wedi bod yng Nghymru rhwng mis Ionawr a Mawrth, 246 (2.6%) yn fwy na’r cyfartaledd dros y bum mlynedd rhwng 2015 a 2019.

Cafodd 23.2% o’r marwolaethau eu hachosi gan Covid-19, sy’n gyfystyr â 2,243 o bobol.

Roedd cyfradd marwolaethau wedi’i safoni yn ôl oedran (age-standardized mortality rate) Covid-19 yn 65.2 i bob 100,000 yng Nghymru yn ystod mis Mawrth, sef y gyfradd isaf ers mis Hydref.

Ffigurau diweddaraf

Heddiw (22 Ebrill), cofnodwyd 63 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru, gan fynd â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 211,104.

Adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru un farwolaeth arall, gan fynd â’r cyfanswm ers dechrau’r pandemig i 5,543.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cyfanswm o 1,727,455 dos cyntaf o frechlyn Covid-19 bellach wedi’u rhoi yng Nghymru.

A dywedodd yr asiantaeth fod 635,655 o ail ddosau hefyd wedi’u rhoi.