Mae arolwg barn newydd yn darogan y bydd Llafur yn cadw eu gafael ar eu seddi yng ngogledd Ddwyrain Cymru.

Wnaeth sawl un o’r seddi ‘wal goch’ yma droi’n las yn etholiad cyffredinol 2019, ac mae rhai’n proffwydo y gall yr un peth ddigwydd eto yn etholiad Senedd eleni.

Ond mae’r Welsh Barometer Poll, sy’n cael ei gynnal gan YouGov ar ran ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd, yn awgrymu y bydd pethau’n wahanol yn yr etholiad hwn.

Mae’r pôl piniwn hefyd yn darogan y bydd Llafur yn colli seddi i Blaid Cymru, tra bydd Plaid Diddymu’r Cynulliad yn ennill seddi am y tro cyntaf mewn etholiad y Senedd.

Seddi

  • Llafur: 26 sedd (24 etholaeth, dwy sedd ranbarth)
  • Plaid Cymru: 17 (wyth etholaeth, naw sedd ranbarth)
  • Y Ceidwadwyr: 14 sedd (saith etholaeth, saith sedd ranbarth)
  • Plaid Diddymu’r Senedd: dwy sedd (dwy sedd ranbarth)
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol: un sedd (un sedd etholaeth)

Colli ac ennill seddi

Mae’r arolwg barn yn darogan y byddai’r Ceidwadwyr yn cipio un sedd yn unig oddi wrth Lafur, sef etholaeth Bro Morgannwg.

Fyddan nhw ddim yn efelychu eu llwyddiant yn etholiad cyffredinol 2019, ac yn cipio Dyffryn Clwyd, Delyn, Wrecsam, a De Clwyd (seddi’r ‘wal goch’) rhag Llafur, yn ôl y pôl piniwn.

Mae’r Welsh Barometer Poll yn rhagweld y bydd Plaid Cymru yn cipio dwy sedd oddi wrth y Blaid Lafur – Llanelli a Blaenau Gwent.

Ac mae’n proffwydo y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cadw’u gafael ar Frycheiniog a Sir Faesyfed.

Canran y bleidlais

Etholaethau

  • Llafur: 35% (+3)
  • Y Ceidwadwyr: 24% (-6)
  • Plaid Cymru: 24% (+1)
  • Reform UK: 4% (+1)
  • Democratiaid Rhyddfrydol: 3% (-2)
  • Y Blaid Werdd: 3% (+1)
  • Plaid Diddymu’r Cynulliad: 3% (dim newid)
  • Y gweddill: 3% (+1)

Rhanbarthau

  • Llafur: 33% (+2)
  • Plaid Cymru: 23% (+1)
  • Y Ceidwadwyr: 22% (-6)
  • Plaid Diddymu’r Cynulliad: 7% (dim newid)
  • Y Gwyrddion: 5% (+2)
  • Democratiaid Rhyddfrydol: 4% (dim newid)
  • Y gweddill: 6% (+2)

Holwyd 1,142 o bleidleiswyr o Gymru (oll yn 16 neu’n hŷn) gan YouGov rhwng Ebrill 18 ac Ebrill 21.

Trannoeth yr etholiad

Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi gwrthod y posibiliad o glymbleidiol â’r Ceidwadwyr.

Pe bai proffwydoliaeth yr arolwg barn yn dod yn wir, mae’n bur debyg y bydd yna gytundeb o ryw fath rhwng Llafur a Phlaid Cymru wedi’r etholiad.

Wnaeth y ddwy blaid ffurfio clymblaid ‘Cymru’n Un’ rhwng yn 2007, a barodd tan 2011.