Mae mwy o gleifion ar restrau aros Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru (GIG) nag erioed o’r blaen, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mae cyfanswm o 550,000 o bobol yn disgwyl am driniaeth, sy’n cyfateb i dros 17% o boblogaeth Cymru.
Datgela’r ffigyrau hefyd fod bron i 218,000 wedi disgwyl dros naw mis am driniaeth – sydd bron yn 40% o’r rhestr aros gyfan.
Mae’r ffigwr hwnnw fwy nag wyth gwaith yn uwch na’r nifer a arhosodd dros naw mis ym mis Chwefror y llynedd.
Fodd bynnag, mae’r ffigyrau yn dangos bod cwymp wedi bod yn yr arosiadau hiraf ers mis Tachwedd pan oedd y rhestr ar ei uchafbwynt.
O ganlyniad i bandemig y coronafeirws, bu’n rhaid i GIG Cymru ohirio nifer fawr o driniaethau gan flaenoriaethu gofal i gleifion Covid-19 – gan achosi ôl-groniad o driniaethau.
Yn y cyfamser mae ffigurau newydd hefyd yn dangos nad Covid oedd prif achos marwolaethau pobl yng Nghymru a Lloegr am y tro cyntaf ers mis Hydref.
Yn ol ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Covid-19 oedd trydydd prif achos marwolaeth pobl yng Nghymru a Lloegr y mis hwnnw, gan gynrychioli 6.3% o’r holl farwolaethau yng Nghymru, a 9.2% yn Lloegr.
Yng Nghymru y prif achos farwolaeth ym mis Mawrth oedd clefyd y galon, sef 11.8% o’r holl farwolaethau. Dementia a chlefyd Alzheimer oedd y prif achos yn Lloegr.
Daw’r ffigurau diweddara ar ol i Lywodraeth San Steffan gadarnhau ddoe bod 22 o bobl wedi marw ar ol cael prawf positif am Covid-19 gan ddod a chyfanswm y marwolaethau yn y Deyrnas Unedig i 127,327.