Mae pobol fydd yn sefyll eu prawf gyrru dan bwysau ychwanegol i basio’r prawf oherwydd bod rhestrau aros hir yn golygu y gallai gymryd misoedd cyn bod cyfle i ailsefyll.

Heddiw (Ebrill 22), bydd profion gyrru yn ailddechrau yng Nghymru wedi i dros 450,000 o brofion gael eu canslo ledled y Deyrnas Unedig yn sgil y pandemig.

Cafodd profion eu canslo ym mis Ionawr, a bydd rhaid i bobol sy’n methu’r prawf aros tua 17 wythnos cyn gallu cael prawf arall, mae’n debyg.

“Panicio’n ofnadwy”

Dywedodd Jack Hayes, disgybl gydag Ysgol Yrru’r AA sy’n sefyll ei brawf heddiw yng Nghaerdydd, ei fod “wedi panicio’n ofnadwy” pan ddaeth y cyhoeddiad wythnos ddiwethaf fod profion am ailddechrau’r wythnos hon.

“Fe wnes i archebu’r [prawf] yn ôl ym mis Hydref yn meddwl y byddai yna ddigon o amser i fi ddysgu cyn hynny,” meddai Jack Hayes, sy’n 25 oed.

“Dw i’n teimlo’n lwcus fy mod i’n un o’r rhai cyntaf i gael y cyfle i’w sefyll, ond rydw i wedi cael llai o amser i ymarfer a pharatoi gyda fy hyfforddwr.

“Hefyd mae yna bwysau ychwanegol i basio gan fod y rhestr aros mor hir cyn y gallwn ni ei ailsefyll, a byddai’n rhaid gwario mwy o arian er mwyn aros yn barod at y prawf”.

Sefyll y prawf “pan maen nhw’n hollol barod i basio”

Mae’r DVLA wedi dweud eu bod nhw’n cynnig 2,500 prawf ychwanegol bob mis drwy gynnal profion ar benwythnosau a gwyliau banc, ac mae hyd at 300 o arholwyr newydd wedi cael eu recriwtio.

“Dylai dysgwyr sefyll y prawf pan maen nhw’n hollol barod i basio, a phan maen nhw’n teimlo eu bod nhw wedi cael digon o amser i ymarfer gyrru ar amrywiaeth o ffyrdd dan wahanol amodau, yn unig,” meddai Mark Winn, Prif Arholwr Gyrru’r Asiantaeth Gyrru a Safonnau Cerbydau.

“Mae miloedd o bobol yn methu eu prawf bob blwyddyn bob blwyddyn oherwydd camgymeriadau sy’n gallu bod yn beryg, a sy’n bosib eu hosgoi.”