Mae’r Blaid Lafur wedi mynnu bod pwyllgor o Aelodau Seneddol blaenllaw yn cynnal ymchwiliad brys i ymddygiad Boris Johnson yn dilyn ffrae am negeseuon testun gafodd eu hanfon at Syr James Dyson.

Daeth yr alwad am gynnal ymchwiliad ddydd Mercher (Ebrill 21) ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod y Prif Weinidog wedi anfon negeseuon testun at y biliwnydd James Dyson.

Roedd Boris Johnson wedi addo edrych ar y rheolau treth ar ôl i James Dyson ei lobio yn ystod yr ymgyrch i gynyddu nifer y peiriannau anadlu ar ddechrau argyfwng y coronafeirws. Roedd James Dyson wedi ysgrifennu at y Trysorlys i wneud cais i sicrhau na fyddai ei staff yn gorfod talu treth ychwanegol petai nhw’n dod o Singapore i’r Deyrnas Unedig i weithio ar y prosiect ar gyfer peiriannau anadlu.

Pan nad oedd wedi cael ymateb, yn ôl adroddiadau roedd wedi cysylltu’n uniongyrchol a’r Prif Weinidog.

‘Gwrthod cyngor’

Mewn datblygiad pellach, mae’r Times yn adrodd bod Boris Johnson wedi gwrthod cyngor Ysgrifennydd y Cabinet i newid ei rif ffôn, yn dilyn pryderon ei bod yn rhy hawdd i lobïwyr ac eraill o’r byd busnes, gysylltu â’r Prif Weinidog.

Nid yw Downing Street wedi gwadu bod Simon Case, y prif was sifil, wedi argymell hyn.

Mae Rachel Reeves o’r Blaid Lafur wedi galw ar Syr Bernard Jenkin, cadeirydd Pwyllgor Cyswllt Tŷ’r Cyffredin, i gynnal ymchwiliad.

Mae hi wedi galw ar y Prif Weinidog i roi tystiolaeth gerbron y grŵp o Aelodau Seneddol blaenllaw ynglŷn â’r ffrae. Mae Rachel Reeves hefyd yn galw am ryddhau manylion cyfathrebiadau ffôn Boris Johnson ynglŷn â busnes y Llywodraeth, ynghyd a chyfathrebiadau rhwng gweinidogion, swyddogion a lobïwyr.

Mae’r arweinydd Llafur Syr Keir Starmer wedi awgrymu bod “un rheol i’r rhai sydd â rhif ffôn y Prif Weinidog, a rheol arall i’r gweddill.”

Ond yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog mae Boris Johnson wedi dweud ei fod yn “hapus i rannu’r holl fanylion” ac nad oes ganddo “ddim byd i’w gelu”.

Mae James Dyson wedi dweud nad oedd y cwmni wedi elwa o gwbl o’r prosiect.

Mae’r negeseuon at James Dyson wedi ymddangos ar ôl i’r Llywodraeth wynebu beirniadaeth yn dilyn adroddiadau bod y cyn-brif weinidog David Cameron wedi lobio’r Llywodraeth ar ran ei gyflogwr, Greensill Capital.